Papur bro tref Dinbych yw’r Bigwn gyda chylchrediad o ryw 400.
Tref ddwyieithog yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yw Dinbych sy’n gyfoethog o ran hanes o’r canol oesoedd ymlaen. Y mae’r Bigwn – gair sy’n cyfateb i’r Saesneg Beacon – yn taflu goleuni ac yn adlewyrchu diwylliant bywiog a chyfoes y gymuned hon.
Y mae tîm o olygyddion yn gyfrifol am y papur bro a gynhyrchir unwaith y mis 10 waith y flwyddyn. Bellach defnyddir lliw ar bedair o’r tudalennau.
Swyddogion Y BIgwn
Cadeirydd: John Davies (Dros dro)
Ysgrifennydd: Sian Rogers
Trysorydd: Llifon Jones