Y Bigwn

Eisteddfod y Dysgwyr

Ar nos Wener 6ed o Fawrth roedd Theatr Twm o’r Nant dan ein sang gyda phobl yn mwynhau eu hunain yn Eisteddfod y Dysgwyr Gogledd Ddwyrain Cymru. Trefnwyd yr Eisteddfod gan Popeth Cymraeg, Dinbych ar y cyd â Choleg Cambria. Bu cystadlu brwd yn y dair adran, sef y cystadlaethau Llwyfan, Gwaith Cartref a’r Celf, Crefft a Choginio. Roedd y beirniaid a’r arweinyddion wedi eu plesio’n fawr gyda chynifer o ddysgwyr oedd wedi cystadlu. Enillwyd y gadair eleni gan Martyn Evans o’r Wyddgrug. Diolch i bob dysgwr a thiwtor Cymraeg am ei gwneud hi’n Eisteddfod mor llwyddiannus ac i bawb a fu’n cynorthwyo ar y noson.

 

Dyma'r canlyniadau

Eisteddfod Y dysgwyr canlyniadau