Colofn y Fran Wen
Does ‘ne olwg ar balmentydd y dre dudwch. Gwariwyd ffortiwn yn gosod palmentydd brics ac ‘roedd y dre yn werth ei gweld. Be ddigwyddodd wedyn? Roedd raid i rywun ddechre tyllu, ac ma’ golwg mawr ar y lle ‘rwan – brics yn rhydd a tharmac yma ac acw. Fase fandaliaic pel droed ddim yn achosi mwy o lanast.
Nos Wener, Mai 18
Am 7.30 yn y Pafiliwn, Corwen
Dai Jones yn cyflwyno
Bryn Terfel Leah Owen
Blodau’r Eithin Cor Orffiws y Rhos
Tocynnau - £3 a £2 o siopau Cymraeg y cylch
“NO”, meddai’r Swyddfa Gymreig
Eu siomi gafodd aelodau’r pwyllgor sy’n gweithio mor ddygn i sefydlu Canolfan Iaith Clwyd yn y dref, gan i’r Swyddfa Gymreig wrthod eu cais am gefnogaeth ariannol i benodi’r staff llawn amser o fis Medi nesaf. Serch hynny, mae’r Cadeirydd, y diweddar Gynghorydd David Jones, yn benderfynnol nad dyma ddiwedd y stori, ------
Ysgol Howell
Eisteddfod gylch yr Urdd
Cafodd yr Ysgol gryn lwyddiant yn yr Eisteddfod Gylch eleni, gyda chwe chystadleuaeth yn mynd ymlaen i’r Eisteddfod Sir.
Llywyddion Anrhydeddus
Mewn cydnabyddiaeth o’u gwasanaeth diflino i’r Bigwn penderfynwyd yn y Cyfarfod Blynyddol i anrhydeddu Gwilym R Jones a Mathonwy Hughes, ein darllenwyr proflenni, drwy eu gwneud yn Llywyddion Anrhydeddus. Gwerthfawrogwn eu cefnogaeth a’u cyfraniad gwerthfawr.
Cronfa Theatr Twm o’r Nant
Rhoddodd cyfraniad o £200 gan bwyllgor Gwyl Hwyl Clwyd, £100 gan y Gymdeithas Gymraeg ac elw o £220.50 (sef peth o elw’r noson a’r raffl) o Noson o Hwyl, hwb sylweddol i gronfa’r theatr. Y mae bellach £2,365 wedi ei gasglu mewn ymateb i’r apel ac y mae bellach ddenu rhagor o arian ar ffurf rhoddion a grantiau gan ddiwidiant ag elusennau, ----
Y Bowliwr
Mae John Evans a Chlwb Bowlio Dinbych gyfystyr ag enw Barry John gyda Rygbi, John Charles gyda pel droed, neu Colin Jackson gyda mabolgampau. John Evans yw’r bowliwr gorau a gynhyrchodd Clwb Dinbych erioed. Ef fu’r pencampwr flwyddyn ar ol blwyddyn. Y flwyddyn diwethaf, fodd bynnag, y mae’n debyg oedd tymor gorau John gan iddo ennill pencampwriaeth Cymru.
