Y Bigwn

clwb rygbi dinbych

Clwb Rygbi Dinbych

clwb rygbi dinbych
 
 

Wrth i mi ddechrau paratoi’r adroddiad byr hwn, mae gemau pêl-droed Uwch-Gynghrair Lloegr newydd ail gychwyn heb y torfeydd arferol yn eu gwlio’n fyw.  Ychydig ddyddiau cyn hynny fe chwaraewyd gêm gyntaf rygbi yn Seland Newydd ers rhai misoedd rhwng yr Highlanders a’r Chiefs yn Dunedin, mewn stadiwn llawn o gefnogwyr.  Oherwydd hyn, mae rhai yn gofyn pryd fydd rygbi’n ail-gychwyn yma yng Nghymru.  Yr ateb syml, mae’n debyg, yw fod neb yn gwybod yn bendant.  Fe gyhoeddwyd fod cystadleuaeth y PRO14, sy’n cynnwys rhanbarthau proffesiynol Cymru, yn gobeithio ail-gychwyn ar Awst 22ain, ond bydd rhaid disgwyl cyn i rygbi cymunedol, sy’n cynnwys clybiau fel Dinbych, gael ei chwarae eto.  Fe gymerodd Tegid Phillips, Llywydd y Clwb, ran mewn webinar (am air hyll!) wedi ei drefnu gan Undeb Rygbi Cymru yn ddiweddar, gyda bron i 300 o unigolion o wahanol glybiau yn tiwnio i mewn i drafod sut i gynllunio y gȇm gymunedol.  Yn dilyn hyn daeth datganiad gan Undeb Rygbi Cymru yn cynnwys y geiriau isod:

“ ... mae’n glir yn awr na fydd y tymor cymunedol yn dechrau’n Medi, ond mae’r holl ddewisiadau’n parhau’n agored a all fod yn Hydref, Rhagfyr, neu Ionawr. Rydym hefyd yn gwybod y bydd y tymor yn edrych yn wahanol pan y dychwel ag y bydd pwyslais ar ddychwelyd yn ddiogel ag aros yn lleol pan lunir y gemau.

Byddwn yn parhau i weithio’n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru a chyrff llywodraethu chwaraeon eraill a byddwn yn diweddaru clybiau bob tro y bydd Llywodraeth Cymru’n rhannu cynllun tair wythnos newydd i ddisgrifio sut y bydd hyn yn effeithio rygbi yng Nghymru.

Amcan allweddol i’r gȇm gymunedol yng Nghymru yw ein bod eisiau bod yn rhan o’r datrysiad a dim yn rhan o’r broblem yn lledaenu’r haint ac felly, ni wnawn ddim i waethygu iechyd cyhoeddus.

 

Gwelir pedair amod clir ar gyfer dychwelyd i chwarae rygbi yng Nghymru:

  • Iechyd Cyhoeddus ac awdurdodau llywodraeth yn caniatau dychweliad
  • Ni chyfaddawdir gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus
  • Bydd gan glybiau amser i addysgu a pharatoi cyfleusterau
  • Cyfnod ail dod yn ffit addas i chwaraewyr
  • Dilyn cysylltiadau”

 

Felly mae’n bosibl y cawn weld rhyw fath o rygbi yn cael ei chwarae yn Ninbych ym mis Hydref, ond ar y llaw arall, efallai bydd rhaid disgwyl tan mis Ionawr.  Amser, ac amgylchiadau, a ddengys.

John Davies