Y Bigwn

Mae’n debyg y gŵyr y rhan fwyaf ohonoch fod yr amgueddfa wedi cau ers dechrau’r cyfnod clo. Mae’n annhebygol o ail agor nes fydd yr argyfwng drosodd oherwydd fod llawer o’n gwirfoddolwyr, fel rhai Y Bigwn ei hun, yn yr oedran sy’n fwyaf bregus o safbwynt Covid-19.

Serch hynny ni fuom yn segur.  Bu ein curadur yn ymweld yn rheolaidd i sicrhau fod y casgliad yn ddiogel ac ati.  Rydym yn cymryd pob gofal i sicrhau fod ein gwirfoddolwyr a rhai eraill sy’n mynychu’r ganolfan Iaith o dro i dro yn ddiogel drwy sicrhau fod diheintydd dwylo ac ati ar gael.

Rydym hefyd wedi bod yn trefnu nifer o sgyrsiau ar-lein dros y misoedd diwethaf.  Ymysg y pynciau bu

  • Lerpwl Cymraeg a Chymry Lerpwl
  • Newyn Mawr 1315
  • Humphrey Llwyd y Cartograffydd o Foxhall
  • Paganaidd dan y wyneb – sgwrs am ffynhonnau cysegredig Cymru

Testun Arall Delwedd 1

Saesneg oedd cyfrwng y sgyrsiau yma ond bydd ein sgwrs ar-lein Gymraeg gyntaf yn cael ei thraddodi Nos Wener, Tachwedd 27ain am 7 o’r gloch.  Y pwnc fydd Ynni Ogwen a’r siaradwr fydd y Peirianydd Siartredig Gareth Cemlyn Jones, Cadeirydd Ynni Ogwen.  Bydd yn cyflwyno’r gwaith datblygu, adeiladu a gweithredu’r prosiect Ynni Cymunedol 100 kW yn Nyffryn Ogwen.

Dwi’n edrych ymlaen yn arw i wrando ar y sgwrs hon achos dwi’n barod wedi bod a diddordeb mawr yn yr hyn sy’n digwydd yn Nyffryn Ogwen, Bro Ffestiniog a Dyffryn Nantlle  o ran datblygu cymunedol.  Dwi’n sicr fod syniadau y gallem ddefnyddio yn Ninbych.  Ydi prosiect ynni yn un ohonynt? Dwi’n gobeithio y bydd y sgwrs hon yn fodd i ddarganfod hynny.

Dyfrig Berry ar ran Gwefr heb Wifrau