Dyddiadur Alys Wyn Jones, 10 oed
DYDD LLUN, 23 O FAWRTH
Teimlad rhyfedd oedd deffro bore ’ma a ddim angen mynd i’r ysgol. Dim gweld ffrindiau, dim cinio gan Mrs Jane Jones, cogydd gorau Cymru! Felly, penderfynais greu ysgol fy hun. Y wers gyntaf oedd iaith – felly dyma ddarllen llyfr “Dal Ati Gwen” am hanner awr. Llyfr am barot yn hiraethu am ei berchennog sydd yr holl ffordd yn Awstralia, a finna’n hiraethu am fy ffrindiau, dwi heb eu gweld ers tridiau!
Y wers nesa i mi ddewis i mi fy hun oedd Saesneg, ysgrifennu 10 ffaith am ffasiwn y 60au. Oeddech chi’n gwbod bod ‘flower power’ yn enw ar fath o ffasiwn yn yr 60au? Gweithiais mor galed, felly penderfynais fynd am amser chwarae bach a bwyta iogwrt apricot mmmm. Amser chwarae, penderfynais chwarae bach o bêl rwyd, ond cyn i mi droi roedd hi’n amser mynd i mewn i’r tŷ eto! Gwers fathemateg oedd nesaf. Yn y prynhawn, cefais wers delyn drwy Skype efo Morwen. Profiad od iawn ond nes i fwynhau ei gweld.
DYDD MAWRTH, 24 O FAWRTH
Bore 'ma roedd Mam yn gweithio ar y cyfrifiadur o adref, doedd hi ddim yn gorfod mynd allan i ohebu. Roedd hi’n braf ei chael hi o gwmpas y tŷ, a chyfle i mi dreulio peth amser gyda hi, er iddi benderfynu hwfro bob man, a thorri gwely fy mrawd, Ianto wrth geisio tynnu llwch o dan y gwely! Mi ddudodd Mam ei bod eisiau i mi a fy mrawd ymarfer fwy ar ein sgiliau ymarferol tra oedden ni ar gyfnod y lockdown. Heddiw roedd hi’n ceisio dysgu fy mrawd sut i roi'r dillad yn gywir ar y lein i sychu, ond nid aeth popeth fel y disgwyl…Aeth Ianto yn sownd yn y dillad gwely! Fe wnaethon ni dynnu lluniau a chwerthin lot!
Yn y prynhawn, fe wnaethon ni chwarae pêl-droed yn yr ardd gyda Mam. Roedd yr haul yn gynnes. Yn nes ymlaen, ysgrifennais lythyrau diolch at fy athrawon cerdd. Mae'r Eisteddfod bellach wedi ei chanslo a byddaf yn colli gweld Leah a Ruth. Cyn amser gwely, fe wnes i goginio brownies gyda Dad i bawb.
DYDD MERCHER, 25 O FAWRTH
Yn y bore roedd hi’n braf eto, aeth Mam a fi am dro at Afon Ystrad. Roedd yna bobol erill yn mynd am dro hefyd, ond roedd pawb yn cadw eu pellter. Cawsom frechdanau wy a meiones blasus i ginio. Yn y prynhawn, mi fues yn helpu Mam i blannu llysiau a pherlysiau yn yr ardd.
I swper, roedd Dad wedi coginio chicken fried rice a grefi blasus iawn, mmmm.

Gwneud Brownies
Penderfynodd Ianto ei fod o isio gwneud brownies heno am fy mod i wedi neud rhai neithiwr. Roedd o’n cael dipyn o drafferth, felly roedd rhaid i mi ei helpu. Be dwi’n olygu ydi, fy mod i wedi gorfod gwneud y cwbl bron iawn! Cawsom lot o hwyl a llawer o chwerthin!
Penderfynodd Ianto ei fod o isio gwneud brownies heno am fy mod i wedi neud rhai neithiwr. Roedd o’n cael dipyn o drafferth, felly roedd rhaid i mi ei helpu. Be dwi’n olygu ydi, fy mod i wedi gorfod gwneud y cwbl bron iawn! Cawsom lot o hwyl a llawer o chwerthin!
DYDD IAU, 26 O FAWRTH
Bore 'ma mi wnaeth Dad ddarlledu ei raglen radio o adref am y tro cyntaf, o’r stafell fach fyny grisia. Mae o wedi adeiladu stiwdio fach yno. Roedd rhaid i ni fod yn dawel, ac i ddeud y gwir, doedd hynny ddim mor anodd ag yr oeddem yn meddwl. Roedd rhaid i Mam fynd allan i ffilmio yn Llandudno, felly es i a Dad am dro i siop y gornel i brynu llefrith. Roedd hi’n ddiwrnod cynnes hyfryd eto, felly fe wnaethon ni chwarae gyda'r ffrisbi yn yr ardd gefn. Roedd sgiliau Dad yn warthus! Fe wnaethon ni hefyd chwarae gêm ‘Horse’ sy'n gêm bêl-fasged wnaeth cefnder fy mam, o Florida, fy nysgu. Mae Dad yn dysgu'r rheolau ond yn andros o ara deg!

Er mwyn helpu Mam, mi wnes i ddyfrio'r planhigion, a phlygu a chadw'r dillad glân. Am 8 o'r gloch aethon ni allan i’r stryd a chlapio ar gyfer yr NHS. Mae gan Mam a Dad lot o ffrindiau sydd yn gweithio i’r NHS, ac maen nhw wedi egluro wrtha i a Ianto pa mor lwcus yda ni o gael pobol i ofalu amdanom mewn amgylchiadau anodd. Mae rhieni rhai o fy ffrindiau i hefyd yn gweithio fel doctoriaid ac yn yr ysbyty. Nes i dynnu llun enfys ac mae o rwan i’w weld yn y ffenest.
DYDD GWENER, 27 O FAWRTH
Bore digon diog i mi. Aeth mam i’r gwaith yn Rhuthun heddiw, ac roedd Dad yn paratoi ei scriptiau wrth y cyfrifiadur ar gyfer rhaglen ‘Ar y Marc’. Bues tu allan hefo Ianto a Dad yn chwarae ffrisbi a ‘Horse’ unwaith eto. Cefais chwilair Harry Potter gan Matthew Michael.
DYDD SADWRN, 28 O MAWRTH
Fel y gwyddoch mae'n debyg, oherwydd y cloi, tyda ni ddim yn cael mynd allan i siopa. Yn tŷ ni, Mam sydd yn gwneud hynny, a heddiw mi aeth hi i’r cigydd ac i Lidl. Yn y prynhawn mi neutho ni chwarae yn yr ardd unwaith eto.

Wrth Afon Ystrad
DYDD SUL, 29 O FAWRTH
Aeth Dad a Mam, Ianto a fi am dro at Afon Ystrad a thaflu cerrig i’r afon, a rasio dail! Roedd hi’n ofnadwy o oer heddiw. Cawsom ginio dydd Sul ardderchog gan Dad, a thatws rhost - fy ffefryn! Yn y prynhawn roedd Mam wedi trefnu cyfarfod dros y we i bawb o’n ffrindiau. Roedden ni gyd yn gallu gweld ein gilydd ar sgrin y cyfrifiadur ac roedd yna hen siarad, ac mi roedd yn braf iawn gweld wynebau pawb eto.;
DYDD LLUN, 30 O FAWRTH
Yn y bore, aeth Mam a fi am dro bach neis o amgylch Dinbych, at Afon Ystrad eto, a heibio Capel Brwcws. Yna mi fuodd Ianto, Dad a fi yn chwarae pêl-droed yn yr ardd. Fe wnes i ddyfrio'r planhigion hefyd i Mam.
Yn y prynhawn, cefais wers biano drwy ZOOM ar y cyfrifiadur efo Ms Dawn. Yn anffodus, roedd rhaid i ni ganslo’r wers Delyn oherwydd anawsterau technegol efo Skype! Dwi meddwl mai Dad oedd ar fai a ddim yn dallt!
Yn nes ymlaen, fe wnes i a Mam gacen siocled, efo buttercream siocled. Roedd yn flasus iawn!
DYDD MAWRTH, 31 O FAWRTH
Deffrais yn weddol hwyr bore ma i ddeud y gwir. Mi wnes i neud fwy o jobsys o gwmpas y tŷ i helpu. Cadw dillad glân, a rhoi dillad yn y peiriant golchi. Mi wnes ychydig o waith ysgol hefyd (y dyddiadur yma!) Yna, cinio ac awyr iach! Fi sy’n neud swpar heno i bawb. Dwi wedi dewis neud - cawl tomato Indiaidd (cartref), gyda Bara Naan cartref, ac i bwdin - sorbet mefus cartref. LOT O WAITH I HOGAN BACH 10 OED!

Y Moch Cwta
DYDD MERCHER, 1af O EBRILL
Bore 'ma daeth pecyn drwy’r post ar gyfer fy moch cwta, Siwgwr a Mêl. ‘Run’ i’w roi yn yr ardd, ac maen nhw wrth eu boddau! Mam a fi wnaeth osod y cwbl, ac mi roedden nhw'n hoffi bwyta'r gwair gwyrdd a dail dant y llew. Maen nhw'n greaduriaid nerfus iawn ond rydyn ni'n ceisio eu dofi. Aeth fi, Mam a Dad am reid ar ein beiciau o amgylch y bloc. Roedd fy rhieni'n gweld pobl roedden nhw'n eu hadnabod ymhob cornel bron, ac yn stopio i siarad (o bellter saff wrth gwrs!). Mae yna lawer o bobl yn mynd am dro dyddia yma. Mwy nag arfer dwi'n siŵr!
DYDD IAU, 2 O EBRILL
Gan nad yda ni yn cael mynd i’r siopa rwan, mae Mam wedi gwneud siop fferins i Ianto a fi. Tyda ni ddim yn gwybod lle mae hi’n cuddio y fasged, ond mae hi yn dod a fo allan bob hyn a hyn, a da ni’n cael dewis ychydig o bethau. Os nad yda ni wedi neud ein gwaith tŷ, da ni yn gorfod talu amdanyn nhw! Doedd Mam ddim adref heddiw, roedd hi yn y gwaith drwy’r dydd, felly nath Ianto a fi ffendio y fasged, a gadael nodyn a pres, ar ôl i ni gymryd ychydig o fferins!
Mi wnes i goginio torth o fara ar ben fy hun bach yn y pnawn. Ond, pan nes i rhoi o i fewn am yr ail waith yn popty yn anffodus mi wnes losgi’n nwylo! Eu llosgi a finnau hyd yn oed yn gwisgo menig! Mae ganddo ni AGA ac ma o’n ofnadwy o boeth. Ond chwara teg roedd y bara yn fendigedig!
Roeddwn i mewn gymaint o boen efo fy mysedd roedd rhaid i mi eu rhoi mewn powlen o ddŵr oer am oriau, doeddwn i methu cysgu o gwbl.
DYDD GWENER, 3 O EBRILL
Bu’n rhaid i mi ganslo fy ngwers Delyn heddiw oherwydd fy mod yn dal mewn poen ar ôl llosgi fy mysedd. Prynodd Mam y ffilm “Frozen 2” ar y teledu i wneud i mi deimlo’n well. Yn y prynhawn nes i chwarae gyda fy moch cwta yn yr ardd eto. Cawsom gymaint o hwyl gyda nhw!
Ar ôl cinio roeddwn i'n dawnsio, ac yn gwneud tro 6 pirewet, ond ar y 6ed tro, anghofiais wneud un symudiad ac mi ddisgynnais ar y llawr a throi fy nhroed. Mae'n brifo, ond dwi'n iawn rwan, rhoddodd Mam fandej o amgylch fy ffêr i'w gadw'n dynn!
Roedd Mam yn ffilmio gwirfoddolwyr yn Ninbych heddiw ar gyfer y Newyddion, ac fe fuodd hi’n ffilmio llun enfys arbennig fy ffrind, Jacob.
SADWRN, 4 O EBRILL
Diwrnod digon diog eto! Mi roedd Dad yn darlledu ‘Ar y Marc’ o’r stydi, a ninnau yn cadw yn dawel! Aeth Mam i wneud y siopa. Tyda ni y plant ddim yn cael mynd efo hi oherwydd y covid -19. Mi ddaeth Euros a’r archeb cigydd yn ei fan i tŷ ni.
Gyda’r nos mi gawson ni syrpreis - têc awê o’r tŷ bwyta Chinese yn top dre. Cefais i noodles efo Mam, ac mi gafodd Dad a Ianto Special Fried Rice. Dwi’n teimlo’n lwcus iawn ac yn hoffi cael bod adref a chael treulio llawer o amser efo Mam a Dad a Ianto, ond dwi hefyd yn colli gweld fy chwiorydd a fy mrodyr hyn hefyd, a Nain Llanrwst, a Nain a Taid Caernarfon a gweddill y teulu.
