Y Bigwn

Testun Arall Delwedd 1

Martha Cordiner

Sefyllfa cryn wahanol i’r arfer yw hi ar hyn o bryd a minnau yn golygu fy rhifyn cyntaf o’r Bigwn. Er ei bod yn gyfnod reit bryderus yng Nghymru a ledled y byd yng nghanol y pandemig gyda’r gair coronafirws i’w glywed nawr yn hytrach na’r gair ‘brexit’. Cofiwch mae golau ar ddiwedd y twnnel. Mae’n bwysig cadw ei’n hysbryd a’n hegni yn uchel.

Fy ‘go to remedy’ yw coginio ac ymarfer corff (dau beth sydd ddim yn cyd fynd yn dda ar brydiau). Er fy mod yn mwynhau coginio beth bynnag, mae’r cyfnod yma wedi galluogi i mi fentro drwy arbrofi technegau coginio a choginio bwydydd gwahanol i’r arfer. Nid oeddwn yn ystyried fy hun yn berson oedd yn hoff o gael ‘routine’ ond mae’r cyfnod yma wedi dangos imi bwysigrwydd cael trefn a strwythur i’r diwrnod. Y mae 30 munud o ymarfer corff yn foreuol yn gwneud byd o wahaniaeth i’m agwedd ac yn fy nghadw’n bositif.

Yn y cyfnod o ‘lock down’ mae cyfryngau cymdeithasol Cymru ar flaen y gad yn cynnig cysur i bobl Cymry a thu hwnt. Mae côr-ona yn grŵp ar ‘Facebook’ sy’n galluogi i bobl fynegi drwy gân ac yn ysgogi’r gymuned gerddorol i fod yn greadigol. Bellach mae dros 46,000 o aelodau a rhain yn Gymry o bob cwr o’r byd!

Bu’r grŵp yma yn ysgogiad mawr a bellach mae degau o grwpiau tebyg wedi eu sefydlu i ddod a’r gymuned Gymreig yn agosach nac y buodd erioed. Mae Curo’r Corona Coginio yn galluogi i bobl rannu ryseitiau a syniadau coginio. Mae’r lluniau yn ddigon i dynnu dŵr i ddannedd unrhyw un. Mae’r byd i gyd wedi troi’n feistri cwis gyda Zoom yn gyfle gwych i bobl gymdeithasu wyneb yn wyneb yn rhithiol. Mae cwis ar Zoom bellach yn ddigwyddiad wythnosol i nifer o deuluoedd Cymru ac yn gyfle arbennig i godi calon a chael ambell i lasiad o win a sgwrs di-bwys dros y we.

Yn ogystal, mae ‘Sing for Wales’ wedi ei sefydlu fel ffordd o gael Cymru gyfan ar eu traed i ganu’r Anthem Genedlaethol am wyth o’r gloch nos Lun, 4ydd o Fai. Pwrpas hyn yw i godi ymwybyddiaeth a chanu dros y rhai sy’n dioddef o’r salwch a'r rhai sy’n gweithio ar flaen y gad i’r NHS.

Newyddion da o lawenydd mawr! Oherwydd y siom o orfod gohirio Eisteddfod Yr Urdd yn Ninbych eleni mae’r Urdd wedi penderfynu cyhoeddi Steddfod T sef ‘steddfod i ti, o’r tŷ’. Mae hyn yn golygu fod ieuenctid Cymru yn gyrru clipiau o’u perfformiadau yn uniongyrchol i wefan yr Urdd. Mae’r Urdd yn cyd-weithio gyda S4C a BBC Radio Cymru er mwyn darlledu rhaglenni arbennig o’r perfformiadau gan greu Eisteddfod tra gwahanol i’r arfer. Edrychwn ymlaen yn eiddgar i’r Eisteddfod ddod i Ddinbych yn 2021.