Mae Gwasg y Lolfa’n paratoi cyfrol ddwyieithog i drafod a dathlu’r twf mewn cefnogaeth i Annibyniaeth i Gymru. Bydd y gyfrol yn cynnwys detholiad o straeon gan unigolion sydd wedi tystio i’r twf yma ers Ewros 2016, sydd wedi ymuno â’r ymgyrch yn sgil refferendwm Brexit neu wedi penderfynu yn nyddiau’r Coronavirus mai annibyniaeth i Gymru yw’r unig ffordd ymlaen.
Meddai golygydd y gyfrol, Mari Emlyn: “Byddai’n dda cael straeon o bob cwr o Gymru yn nodi pam eich bod chi wedi dewis cefnogi annibyniaeth i Gymru. Beth oedd y sbardun i chi gefnogi’r ymgyrch? Pam bod angen annibyniaeth? Byddai’n dda hefyd pe gallech anfon lluniau ohonoch chi a’ch teulu/ffrindiau i gyd-fynd â’ch profiad – yn yr Ewros yn 2016, mewn cyfarfodydd canghennau Yes Cymru, ar un o’r gorymdeithiau dros Annibyniaeth, o fewn eich cymuned neu yn eich cartref yn ystod y lockdown.”

Cysylltwch gyda Mari Emlyn i gynnig eich lluniau a’ch straeon:
