
Beth am wirfoddoli?
Mae Cyngor ar Bopeth yn parhau i gynnig cyngor ar ystod eang o faterion, ond mewn ffordd tra gwahanol i’r arfer. Oherwydd y cyfyngiadau presennol, mae nifer helaeth o staff a gwirfoddolwyr yn gweithio o’u cartrefi i gynnig y gwasanaeth gwerthfawr hwn i’r gymuned. Ond, fel pob mudiad ac elusen arall, mae angen gwaed newydd er mwyn diogelu eu dyfodol. Hefyd, mae prinder gwirioneddol o siaradwyr Cymraeg sy’n gwirfoddoli. Felly, os hoffech chi ystyried chwarae eich rhan, o ddiogelwch eich cartref eich hun, mewn sicrhau fod gwasanaeth Cymraeg ar gael i’r rhai sy’n dymuno, beth am gysylltu i gael mwy o wybodaeth?
