
Mae aelodau’r Capel yn parhau i gael blas a bendith o negeseuon a myfyrdodau wythnosol eu cyn-Weinidog, y Parch Graham Floyd, ac hefyd ar y gwahanol oedfaon digidol sydd i’w gweld ar amryw lwyfan digidol. Yn naturiol, mae’r rhain yn cynnwys yr Oedfaon Digidol ar wefan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, megis oedfa ar ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol ac un arall yn seiliedig ar Neges Heddwch ac Ewyllys Da gan Bobl Ifanc Cymru.
Yn absenoldeb casgliad o ddrws i ddrws ac unrhyw weithgareddau eraill arferol yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol, bu nifer o’r aelodau, yn union fel aelodau eglwysi eraill y dref a ledled y wlad, yn gwneud cyfraniadau digidol neu drwy lyfrau’r Capel i’r elusen.
Roedd nifer o ddarllenwyr Y Bigwn yn bresennol mewn Noson Cawl a Cwis i godi arian tuag at Apêl Madagascar Undeb yr Annibynwyr 2018-19. Daeth y newyddion yn ddiweddar gan Yr Undeb fod yr Apêl wedi cyrraedd y swm anhygoel o £158,675, gyda’r arian i’w ddosbarthu trwy bartneriaeth gyda’r elusen “Money for Madagascar”.
Mae llawer ohonom yn gallu teimlo’n isel iawn ar adegau yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn, ond os hoffech chi gael rhywbeth i godi’r galon a dod â gwên i’ch wyneb, dwi’n awgrymu’n gryf eich bod yn clicio ar
i weld plant o Gymru a Madagascar yn cyd-ganu. Mwynhewch!