Y Bigwn

Y Tîm ar ddechrau tymor 1977-78 gyda Pete Minshull yn 4ydd o'r chwith yn y rhes gefn

Pete Minshull (4ydd o'r chwith yn y rhes gefn)

Gyda thristwch clywsom am farwolaeth Peter Minshull, un o hoelion wyth y Clwb, ac un oedd yn uchel iawn ei barch.  Chwaraeodd Peter i Glwb Rygbi’r Rhyl, ond unwaith i Glwb Rygbi Dinbych gael ei sefydlu ym 1977, ymaelododd â’r Clwb hwnnw a chael ei ethol i fod yn aelod o’r Pwyllgor am y tymor cyntaf.  Yn ystod ei yrfa hir, fe chwaraeodd yn yr ail reng i’r Tîm Cyntaf a bu’n gapten ar yr 2il, 3ydd a 4ydd XV ar adegau gwahanol. Roedd Peter yn awyddus i weld y Clwb yn ffynnu ar ac oddi ar y maes chwarae, a cafodd ei ethol yn Oruchwiliwr y Gwaith yn ystod datblygu’r adeiladau yn ôl ym 1981, a daeth yn Is-Gadeirydd o’r Clwb ym 1993. Dim ond yn ddiweddar iawn y bu'n rhaid i Peter roi’r gorau i’w rôl fel Cydlynydd Hyfforddi. Fe fyddai Peter yn teithio ledled y wlad i gefnogi'r Clwb yr oedd yn ei garu, gan wrthod yn aml y cyfle i fwynhau'r gêm er mwyn iddo redeg y lein.  Roedd bob amser yn deg ac yn llawn cefnogaeth i'r chwaraewyr waeth beth fo'r canlyniad. Pur anaml y byddai Peter yn colli gêm ac roedd yn hapus i gymdeithasu gyda chwaraewyr hen a newydd. Bydd colled fawr ar ei ôl yng Nghlwb Rygbi Dinbych ac ar ran y Clwb mae ein cydymdeimlad diffuant yn mynd allan at wraig Peter, Marilyn, yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Yn ôl Llywydd y Clwb, Tegid Phillips, roedd Peter yn “Gawr Cyfeillgar – yn aelod teyrngar a ffyddlon o’r Clwb. Pan oedd yn chwarae, nid oedd ots a oedd yn cynrychioli’r Tîm Cyntaf, yr Ail, Trydydd neu Bedwerydd, roedd bob amser yn ymdrechu 100%. Fel llimanwr, roedd yn hollol onest a di-duedd, hyd yn oed yn rhoi penderfyniadau yn erbyn Dinbych os oedd rhaid. Roedd Peter yn hoffi gwneud bob peth i'r safon uchaf, waeth beth fyddai hynny.  Bu ei wraig Marilyn hefyd yn chwarae hoci i Ddinbych a teg dweud eu bod yn rhan fawr o ddiwylliant chwaraeon y dref."

Ar ddydd Iau Mai 21ain daeth dros gant o gyd-aelodau a chyfeillion Pete i’r Clwb (gan gadw’r pellter cymdeithasol priodol) i dalu’r gymwynas olaf iddo wrth i’r hers fynd heibio ar y ffordd i’r Amlosgfa.  Heddwch i’w lwch.

 


Hoffwn ddiolch i Tegid hefyd am gytuno i ni gyhoeddi’r pigion isod o’i gylchlythyr diweddar i aelodau.

Cylchlythyr Mai 2020

  • Dymunwn ailadrodd y sylw a wnaed yng Nghylchlythyr Ebrill, os hoffech chi, neu unrhyw un o'n haelodau, gael cymorth yn ystod yr amseroedd anodd hyn, rhowch wybod i ni. Byddwn yn ymdrechu i wneud ein gorau i'ch cefnogi.
  • Unwaith eto, rydym yn cynnig ein diolch a'n dymuniadau gorau i'n holl aelodau sy'n gweithio i'r GIG neu mewn gofal cymdeithasol. Rydym yn eich dyled!
  • Mae'r Clwb yn parhau i gael ei ddefnyddio fel Canolfan Asesu Covid 19. Sylwch fod yn rhaid trefnu apwyntiadau ymlaen llaw. (trwy eich meddyg teulu)
  • Rhagwelir y bydd y prosiect sylweddol o wella'r cae hyfforddi yn ailgychwyn yn ystod yr wythnosau nesaf. Rydym wedi derbyn cadarnhad gan Undeb Rygbi Cymru a Chwaraeon Cymru bod y grantiau yn ddiogel er gwaethaf yr argyfwng presennol.
  • O safbwynt chwarae, mae hyfforddwyr y timau hŷn eisoes yn dechrau cynllunio ar gyfer y tymor nesaf. Mae pob un o garfan y tymor hwn wedi ymrwymo i chwarae eto ac mae gobeithion hefyd y bydd rhai wynebau newydd yn ymddangos. Mae'r clwb hefyd wrthi'n trafod sefydlu tîm dan 17 fel cam cyntaf i ailsefydlu'r tîm ieuenctid.

Mae URC wedi atal ei Loteri dros dro. Mae gennym ni ryw 160 aelod sy'n rhan o'r loteri honno. Ar gyfer yr aelodau hynny, rydym yn trefnu raffl fewnol gyda gwobrau misol o £100 a £50. Cyhoeddir yr enillwyr erbyn y 15fed o bob mis gan ddechrau ar 15fed Mai. Os hoffai unrhyw un ddod yn rhan o'r gystadleuaeth yma cysylltwch â Tegid Phillips ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


  • Mae Arwyn Jones, cyn chwaraewr a hyfforddwr yn y Clwb, yn cynnal digwyddiad codi arian ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd a'r GIG. Mae'n beicio 500 milltir a fyddai, ar adeg arferol, yn mynd ag ef o gwmpas 'Ysbyty Cymru'; y tro hwn, mae'n gorfod beicio'r 500 milltir yn ei garej ei hun, gan ddechrau ddydd Gwener, 8fed Mai.

Os hoffech chi gefnogi Arwyn yn ei ymdrech ganmoladwy dilynwch y ddolen ar: https://www.justgiving.com/fundraising/arwyn-jones22


Clawr 40 Mlynedd o Rygbi

Daeth cais gan Undeb Rygbi Cymru yn ddiweddar am gopi o’r llyfr “40 Mlynedd o Rygbi” i’w gynnwys yn eu harchif o’r gêm.  Wedyn daeth y syniad, gan fod cymaint mwy o ddarllen yn cael ei wneud yn ystod cyfnod yr hunan-ynysu, o gynnig cyfle i’r rhai sydd heb ei ddarllen i gael copi am bris gostyngedig.  Felly, os hoffech gael copi o’r llyfr am £5.00 gyda phostio a pacio yn rhad ac am ddim, ffoniwch 01745 812239 neu ebostiwch johndavies744@btinternet am fwy o wybodaeth.