Y Bigwn

 

Cornel Coginio

Y Gornel Goginio

 

Pitsa cartref

pizza cartref

Gallwch arbrofi drwy roi bob math o ‘toppings’ ar ben eich pitsa.

Pitsa Margarita yw’r llun uchod:

-Caws Mozzarella, saws tomato, dail basil

Cynhwysion

Toes

550g Blawd gwyn cryf

7g o furum

1 llwy de o halen

1 llwyd de o siwgr caster

320ml o ddŵr cynnes

2 llwy fwrdd o olew olewydd

Ychydig o bupur du i flasu

 

Saws tomato

1 tin tomato      

2 llwy fwrdd o Puree Tomato

1 llwy fwrdd o olew olewydd

2 clof o garlleg

1 nionyn

1 llwy de o basil

1 llwy de o oregano

Halen a pupur i flasu

 

Dull

    1. Ychwanegwch y blawd gwyn cryf, yr halen a’r pupur i ddysgl cymysgu mawr. Ychwanegwch y dŵr, burum, siwgr ac olew olewydd i jwg a gadael am 3 munud i ganiatau’r burum actifadu.
    2. Arllwyswch y gymysgedd gwlyb yn araf i’r bowlen gymysgu. Defynddiwch lwy bren neu beiriant gyda bachun toes a cymysgwch.
    3. Wedi hyn defnyddiwch eich dwylo er mwyn ei gymysgu ymhellach neu parhau gyda’r peiriant a’i gymysgu a thylino’r (Knead) toes. Gwnewch hyn nes bod y toes fel elastig a dim yn rhu ludiog.
    4. Rhowch y toes mewn bowlen a’i orchuddio a thywel te llaith a’i adael am 1 awr nes bod y toes wedi dyblu o ran maint.
    5. Cymerwch y toes a’i dylino (knead) am ychydig o funudau i dynny rhywfaint o’r aer allan. Rhannwch y gymysgedd i 4 pelen (os ydych yn dymuno mae posib rhewi y toes).
    6. Ffrio y nionyn ar garlleg mewn sosban nes ei bod wedi coginio ac yno ychwangewch gweddill y cynhwysion ac gadael i’r saws ferwi (fe allwch blendio’r saws wedi iddo oeri er mwyn cael saws llyfn)
    7. Er mwyn rholio’r toes rhowch ychydig o flawd ar yr arwyneb a defnyddiwch rholbren i rholio’r toes.
    8. Defnyddiwch eich bysedd er mwyn gweithio’r toes a’i wneud yn gylch crwn.
    9. Gorchyddiwch y pitsa gyda saws ac ychwanegwch gweddill y cynhwysion.
    10. Coginiwch y pitsa mewn popty poeth ar 200 ͦc am 20 munud.

 

Bisgedi Rhiwbob a Chwstard

Bisgedi Rhiwbob a Chwstard

Bisgedi Rhiwbob a Chwstard

Cynhwysion

175g menyn di hallt

50g siwgr caster

50g siwgr eisin

¼ llwy de o halen man

250g o flawd plaen

50g powdr cwstard

2 melyn ŵy

1 llwy fwrdd o fanila

Y Jam

200g o rhiwbob (wedi torri)

200g o siwgr caster

¼ sudd lemwn

 

Dull

  1. Er mwyn gwneud y jam rhowch y rhiwbob, siwgr a sudd lemwn mewn sosban a’i ferwi am 15 munud nes bod y rhiwbob wedi malu a dechrau rhyddhau’r hylif. Rhowch mewn blendar nes ei bod yn llyfn ac wedyn ei ddychwelyd yn ôl i’r sosban i’w ferwi am 5-10 munud nes ei bod fel jam trwchus.
  2. Gadewch i’r Jam oeri.
  3. Er mwyn gwneud y bisgedi rhowch y menyn, y ddau fath o sigwr ac halen mewn prosesydd bwyd a chreu past. Ychwanegwch y blawd ar powdr cwstard a pharhau nes bod y gymysgedd yn fan fel tywod.
  4. Ychwanegwch yr ŵy a’r fanila nes ei fod fel pelen.
  5. Ychwanegwch hanner llwyed o ddŵr os yw’r gymysgedd yn rhu sych.
  6. Amgylchynwch y toes a ‘cling flim’ a’i roi yn yr oergell am oleiaf 30 munud.
  7. Rhowch ychydig o flawd ar yr arwyneb cyn rholio eich toes allan i drwch 5mm.
  8. Defnyddiwch torrwr siap cylch i greu eich bisgedi.
  9. Defnyddiwch nosl peipio er mwyn torri siap cylch allan ar hanner y bisgedi. Rhowch y cyfan ar hambwrdd gyda phapur memrwn.
  10. Cynheswch y popty i 200 ̊c a’i coginio am 5-6 munud.
  11. Gadewch i’r bisgedi oeri. Rhowch y jam mewn bag peipio neu defyddiwch llwy de a gwasgarwch y jam ar y fisged nad yw’n cynwys twll. Peidiwch a mynd yn rhu bell at ochr y bisged oherwydd mi fydd yn gwagaru wedi ichi leoli yr ail fisged a chreu ‘brachdan bisged’.
  12. Rhowch y bisgedi mewn blwch aerdyn- rhaid bwyta o fewn 3 diwrnod.