Y Bigwn

rystan Ellis Morris a Heledd Cynwal yn cyflwyno Eisteddfod T ar S4C

Siom enfawr oedd clywed yn ôl yn fis Mawrth na fyddai Eisteddfod yr Urdd yn cael ei gynnal yn Ninbych eleni ar gaeau Kilford. Ond, fe ddaw cyfle i ni'r flwyddyn nesaf i arddangos y gorau o ddoniau’r dref a gweddill Sir Ddinbych gyda’r Eisteddfod yn ymweld â’r ardal yn Mai 2021. Fodd bynnag, cafwyd Eisteddfod ar ffurf gwahanol iawn gydag Eisteddfod T yn cynnal cystadlaethau rhithiol ar lein - a’r dull yma o gystadlu wedi bod yn llwyddiannus iawn. Eisteddfod dra wahanol i’r arfer oedd hi ac S4C a BBC Radio Cymru mewn partneriaeth gyda’r Urdd wedi darlledu rhaglenni arbennig o’r perfformiadau ar blatfform digidol. Braf clywed fod gymaint o blant a phobl ifanc wedi cystadlu er y sefyllfa unigryw yma. Roedd dros 4,000 o fideos wedi eu danfon gan blant i’r Urdd eleni gyda 6,000 o gystadleuwyr. Gwelwyd cystadlaethau newydd yn cael eu cyflwyno am y tro cyntaf fel cystadleuaeth ‘lip syncio’, dynwared ac anifail anwes talentog. Roedd amrywiaeth ehangach o gystadlaethau a’r hyblygrwydd o fedru gwneud hyn o gysur eu cartrefi yn golygu fod nifer o gystadleuwyr newydd wedi’w dennu i gystadlu eleni am y tro cyntaf. Yn dilyn yr ymateb positif, gobeithio y bydd yn fwriad gan Yr Urdd i sicrhau fod plant a phobl ifanc na fyddai fel arfer yn troedio llwyfannau eisteddfodau yn parhau i gael cyfle i berfformio a chystadlu yng ngŵyl Ieuenctid fwyaf Ewrop.

 

 

Gyda llwyddiant y grŵp Côr-ona a nifer o berfformiadau eraill fel fideo o Gymru y West End a chorau ysgolion Cymru i’w gweld dros y cyfryngau cymdeithasol, hyfryd oedd gweld fideo newydd o gôr o unigolion , oll i gyd o Sir Ddinbych yn perfformio'r gân ‘Un Ydym Ni’ yn ddiweddglo i Eisteddfod T. Steffan Hughes cynhyrchodd y perfformiad, ac mae   Steffan sydd yn wreiddiol o Landyrnog ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd wedi bod yn brysur yn beirniadu sawl cystadleuaeth yn Eisteddfod T eleni. Rwy’n siŵr eich bod chi’n adnabod ambell i wyneb cyfarwydd, er bod sawl un yn byw yn bell iawn o gartref erbyn hyn ac yn gweithio neu astudio yn y maes creadigol a cherddorol.   Braf gweld bod diwylliant cerddorol Cymru mewn dwylo diogel !   Gwrandewch ar eiriau’r gân gan ei fod yn datgan neges gref i ni ar bwysigrwydd   undod - a hyn yn fwy perthnasol inni yn ystod y cyfnod presennol. Mae’n bwysig ein bod ni gyd yn cydweithio a chefnogi ein teuluoedd, ffrindiau a chymdogion drwy gyfnod y ‘Gofid mawr’. Cadwch yn ddiogel a daw eto haul ar fryn!

Morgan Cordiner