Y Bigwn

Testun Arall Delwedd 1

Cyntedd Capel Lon Swan

“Da chi’n ddewr iawn yn Lôn Swan yn cynnal gwasanaethau,” meddai cyfaill yn ddiweddar.

“Nid dewr, ond gofalus,” oedd byrdwn f’ymateb, gan ein bod wedi dilyn holl ganllawiau a chyfarwyddiadau hylendid a phellter cymdeithasol sydd wedi’n cyrraedd o Lywodraeth Cymru, Cytun ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.  O ganlyniad, mae’r cyntedd yn frith o arwyddion diogelwch a chyfarpar diheintio a glanhau!

Mae sawl ffactor o’n plaid, wrth gwrs, yn bennaf maint yr addoldy a’r nifer gymharol fach o aelodau, sy’n ei gwneud hi’n llawer haws, er enghraifft, i gadw cofrestr o’r rhai sy’n mynychu’r oedfaon.

Testun Arall Delwedd 1

Rydym felly wedi llwyddo i gynnal gwasanaethau syml ac amrywiol bob bore Sul ers Medi 13, gydag aelodau ac eraill yn arwain yr addoliad yn eu tro.Am ba hŷd byddwn yn gallu parhau i wneud hyn, pwy a ŵyr?

Mae pethau’n wahanol iawn, wrth gwrs, ac wrth i’r tywydd oeri, mae’n beth od iawn gwresogi’r capel gan gadw’r drysau’n llydan agored.Dydy’r Trysorydd ddim yn hapus!

(Wrth i mi adolygu’r erthygl, daeth y newyddion, nid yn annisgwyl, fod Cyfnod Atal Byr yn dod i rym yng Nghymru am 6.00yh dydd Gwener 23 Hydref tan dydd Llun 9 Tachwedd, sy’n golygu na fydd hi’n bosibl cynnal gwasanaethau arferol yn ystod y cyfnod.)

 


Y Banc Bwyd yn yr Ysgoldy

Storfa y Banc Bwyd yn yr Ysgoldy

Erbyn hyn, mae gweddill yr adeilad wedi ei lanhau’n drylwyr gan gwmni lleol, ac mae Banc Bwyd Dyffryn Clwyd wedi dechrau defnyddio rhan o’r Ysgoldy (y Festri Fawr) fel storfa bwyd ychwanegol.  Bydd y Banc Bwyd, wrth gwrs, yn parhau i weithredu o’r Capel Mawr.

 

 


Logo Bywyd i Bawb

Fe gefnogodd nifer o ddarllenwyr Y Bigwn Apêl Madagascar 2018-2019 Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sef Apêl Madagascar, a codwyd y cyfanswm teilwng iawn o bron i £16,000. Cafodd un o’n haelodau’r fraint o gymryd rhan mewn cyfarfod “Zoom” wedi ei drefnu gan Yr Undeb, ble cafwyd diweddariad gan Irenee Rajona-Horne, Cyfarwyddwraig yr elusen “Money for Madagascar”, ar sut mae’r arian a gasglwyd yn cael ei ddosbarthu. Elusen yw hon a ffurfiwyd yn wreiddiol yng Nghymru ac sy’n gyfrifol am ddosbarthu’r arian rhwng y pedair elusen a ddewiswyd gan Yr Undeb i’w cefnogi’n benodol.  Eglurodd fod yr ynys wedi dioddef yn enfawr o ganlyniad i Covid-19, a does dim gwasanaeth lles yn bodoli, felly mae’r arian hwn yn fwy hanfodol nag erioed er mwyn galluogi y brodorion i symud ymlaen gyda’u gwahanol brosiectau tymor hir.

Yn gyntaf, cawsom gyfle i weld fideo wedi ei recordio gan Hanta, Cyfarwyddwraig Canolfan Breswyl i Ferched, Akany Avoko Faravohitra. a ddiolchodd i bawb yng Nhymru oedd wedi cefnogi’r Apêl.  Roedd rhywfaint o’r arian eisoes wedi ei wario ar brynu car i ymweld â theuluoedd y merched yn yr ynys fynyddig, mynd â’r merched i dderbyn addysg, gweld meddyg a llawer mwy.  Cawsom weld y car, yn ogystal â Thoiled “Bio-Gas” a dosbarth Crefftau ble mae’r merched yn gwneud bagiau, i gyd wedi eu hariannu gan “Bywyd i Bawb”.  Os am gael gwybod mwy am y lloches hwn, mae’n werth gwylio'r fideo isod:

 

 

 

Cafwyd gwybodaeth am y prosiectau eraill, yn gyntaf Cartref Plant Amddifad Topaza, sydd, oherwydd Covid, gyda 48 o blant yn eu gofal, llawer mwy nag arfer, ac wedi defnyddio rhan o’r arian i gyflwyno mesurau hylendid trwyadl a phrynu bws mini fydd yn hynod ddefnyddiol.

Mae Meddygfa, Deintyddfa a Fferyllfa SAF eisoes wedi buddsoddi mewn offer uwchsain (Ultra-sound) sy’n eithriadol o bwysig mewn gwlad ble mae cymaint o famau’n marw wrth roi genedigaeth a nifer mor uchel o fabanod yn farw-anedig.

Bwriad Coleg Diwinyddol Ivato yw ehangu’r gwaith Addysg Amgylcheddol sydd eisoes mewn lle, gan ganolbwyntio ar dyfu bwyd organig, ond mae cyfyngiadau Covid yn golygu fod rhywfaint o oedi ar y gwaith hwn.

Ar derfyn y cyfarfod pwysleisiodd Irenee mor bwysig oedd y berthynas hanesyddol rhwng Cymru a Madagascar, yn mynd yn ôl dros 200 mlynedd, ac mor braf oedd gweld y cysylltiad yn cael ei adfywio yn yr unfed ganrif ar hugain.


Gyda thristwch derbynwyd y newyddion am farwolaeth ein haelod hynaf, sef Mrs Grace Jones, bu farw yn gant oed.  Cynhaliwyd oedfa i gofio ac i ddiolch am ei bywyd, prynhawn Mercher, Hydref 21ain yng Nghapel Lôn Swan, dan arweiniad Y Parch Graham Floyd. Derbynwyd rhoddion er cof tuag at Ysbyty Gymunedol Rhuthun. Teyrnged i Grace Jones

 

John Davies