Y Bigwn

 

Cornel Coginio

Y Gornel Goginio

 

               Curo’r Corona’n Coginio

Rwyf yn cael pleser llwyr yn coginio ac felly yr oedd y fforwm Curo’r Corona Coginio yn gyfle arbennig imi allu rhannu syniadau a dysgu technegau gwahanol. Roedd llu o ryseitiau hyfryd ar gael ar y fforwm ac yr oedd yn ysbrydoliaeth imi arbrofi gyda chynhwysion nad oeddwn wedi ystyried o’r blaen. Braint oedd derbyn neges gan un o’r sefydlwyr oedd gyda diddordeb mewn cynnwys fy rysáit Crempog Americanaidd yn y llyfr. Yr oedd dros 10,000 o ryseitiau gwahanol wedi eu gyrru ac felly syndod mawr oedd gweld bod fy rysáit i yn rhan o’r llyfr. Mae’r Rysáit Crempog yn syml a diffwdan (popeth mewn un bowlen) ac yn addas ar gyfer pawb. Gallwch arbrofi drwy ychwanegu unrhyw ‘toppings’ i’ch crempog.Fy ffefryn i yw banana, hufen a surop - perffaith ar gyfer unrhyw un gyda dant melys. Mae’r llyfr wedi profi i fod yn hynod lwyddiannus ac wedi ei ail argraffu erbyn hyn. Yr anrheg Nadolig Perffaith! Bachwch eich copi o Siop Clwyd.

Dros y cyfnod clo yn anffodus roedd rhaid cau Te yn y Grug ac felly yn dod â’r cyfnod o bobi cacennau ar gyfer y siop i ben. Yn ffodus imi yr oedd y fforwm yn ysgogiad pellach imi goginio yn o gystal â chael negeseuon yn gofyn imi goginio cacennau ar gyfer achlysuron arbennig. Rwyf wedi dewis rysáit arbennig y mis yma a  fydd yn galluogi ichi greu cacen siocled flasus dros ben. Felly rhowch gynnig arni.

curor coronan coginio 1

curor coronan coginio 25f9c13a5de194curor coronan coginio 4curor coronan coginio 5
Sut i greu y sbwng siocled perffaith.

Cynhwysion

 

 Y Gacen

263g o Flawd Codi

275 g Siwgr man

3 Wy

1 Llwy de o Soda pobi

48 g o Cocoa

160 ml o Olew llysiau

175g o Laeth enwyn neu lefrith gyda ychydig o sudd lemon

175g o Goffi oer

 

Yr Eisin

500g o Siwgr Eisin

200g o Gaws hufen

70g o Fenyn di-hallt

150g o Siocled tywyll

 Cacen Siocled Rysait Martha

 

Dull

  1. Cynheswch y popty i 170°C ac irwch eich tuniau cacennau.
  2. Cymysgwch yr olew, coffi, llaeth enwyn a’r wyau mewn bowlen gymysgu gyda chwisg drydan.
  3. Ychwanegwch y cynhwysion sych i’r gymysgedd wlyb.
  4. Cymysgwch y cyfan yn ofalus (peidiwch â gorgymysgu).
  5. Arllwyswch y gymysgedd siocled i’r tuniau a’i phobi am 20-25 munud.
  6. Er mwyn gwneud yr eisin siocled, gwnewch yn siŵr bod y menyn di-hallt yn feddal.
  7. Chwipiwch y menyn gyda chwisg drydan nes ei bod yn hufennog ac wedi dyblu mewn maint. Ychwanegwch y caws hufen a pharhau i gymysgu.
  8. Ychwanegwch y siwgr eisin yn ofalus i’r fowlen a’i gymysgu.
  9. Wedi ichi doddi’r siocled ychwanegwch i’r gymysgedd.
  10. Os yw’r eisin siocled yn rhy drwchus ychwanegwch ychydig o lefrith.

Martha Cordiner