Y Bigwn

Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol

Wel am flwyddyn a hanner! Rydach chi fel finnau’n ysu am weld cefn 2020 rwy’n siŵr. Ond er mor anodd y bu’r flwyddyn hon, mae gennym le i ddiolch a dathlu hefyd. Dathlwn y ffaith fod cymunedau Cymru wedi bod yn gefn i sawl aelod bregus wrth iddynt orfod hunan ynysu dros gyfnod y clo mawr. Dathlwn fod cariad cymdogol wedi bod yn fendith ddigymar mewn cyfnod o ofn.

Yn Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol eleni, rydym am bwysleisio’r cariad hwn sy’n adeiladu gobaith yng nghanol byd o dywyllwch. Cofiwn am un a ddaeth i droi’r byd a’i ben i waered – nid trwy fygwth na chodi ofn, ond trwy garu heb gyfrif y gost iddo’i hun. A dyna’n union y cariad sy wedi ei amlygu yn ein plith ni eleni! Diolch i Dduw amdano.

Yr argyfwng hinsawdd yn Ethiopia

Mekonnen a'i wartheg

Mekonnen a'i wartheg

I gymunedau eraill yn ein byd, her ar ben sawl her arall a fu’r Coronafirws. Dyna gymunedau yn Ethiopia, er enghraifft, sy’n dioddef yn enbyd gan effeithiau’r argyfwng hinsawdd. Mae bugeiliaid teithiol fel Mekonnen yn gorfod cerdded milltiroedd maith i chwilio am ddŵr i’w wartheg. Pan gyrhaedda afon a arferai lifo’n gryf, yr hyn a wêl yw gwely sych. Rhaid cloddio, felly, er mwyn cyrraedd y dŵr, a gall hynny fod yn fenter hynod beryglus.

Gyda help partner Cymorth Cristnogol, fodd bynnag, mae cymunedau wedi derbyn cefnogaeth i adeiladu pyllau cymunedol yn eu pentrefi. Golyga’r pyllau hyn nad oes raid i’r trigolion gerdded am oriau i nôl dŵr. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd pobl.

Trwy eich cefnogaeth chi, gallwn greu mwy o’r pyllau hyn a helpu cymunedau eraill i oroesi yn wyneb her fawr yr argyfwng hinsawdd. Ewch draw i’n gwefan i weld sut y gallech chi helpu: www.christianaid.org.uk/appeals/key-appeals/christmas-appeal

 

 

Carol Adfent newydd

Ymunwch gyda ni i ganu carol newydd ar Sul Cyntaf yr Adfent – 29 Tachwedd – ‘Pan aned gynt mewn tlodi’ – a dilynwch ein cadwyn weddi pob dydd trwy’r cyfnod.

Er bod eleni wedi bod yn llawn braw ac ofn, ni fu heb resymau i’w dathlu. Unwn i ddiolch am y cariad sy’n adeiladu gobaith, eleni fel ag erioed.