Mam

Iola a Griff (mam a dad)
Cafodd Mam, Iola Lewis Jones (Richards] ei geni yng Nghorris gan ddechrau yn yr ysgol yn y pentre, lle oedd ei Thad, David Lewis Jones yn ysgolfeistr ac wedyn i Ysgol Tywyn. Yna penderfynu mynd i Lerpwl i ddechrau hyfforddiant fel Nyrs yn Ysbyty Myrtle Street.
Amser hapus a chaled. Ar ôl cael ei magu mewn lle mor Gymreig, roedd rhaid dysgu sut i siarad Saesneg yn gywir. Dwi’n cofio hi’n deud, un diwrnod, iddi ofyn, “Shall I keep these Sister?’ Yr ateb, “Do you want to take them home?” “No Sister.”
“Then put them Away!!!” Yr oedd yn galed bod mor bell o adre, ond mi wnaeth y gorau o’r amgylchiadau gan weithio’n galed, ac astudio. Mi dalodd hyn ar ei ganfed gan, ar ddiwedd y flwyddyn olaf, yn 1946, iddi gael y fraint o dderbyn y Fedal Aur (Gold Medal) am y nyrs orau ar y cwrs .Yn anffodus, nid oedd neb o’r teulu yn gallu bod yna i’w gweld yn derbyn y Fedal gan Lady Sefton. Ei thad dramor yn gwneud gwaith efo’r War Graves Commission, a’i brawd Gwilym yn y Llynges. Ond dwi’n siwr eu bod nhw’n proud iawn o’r hyn roedd hi wedi ei gyflawni, fel yr wyf fi heddiw.
.
Dad

Medal Aur mam a Medal Arctic dad
Ar ôl i’r rhyfel dorri allan, cafodd Dad, Griff Richards, ei alw i’r Llynges. Y rhan fwyaf o’r amser yn y Llynges, roedd Dad ar yr Aircraft Carrier HMS Victorious ar amser peryglus dros ben oherwydd ar ôl i Dad fynd arni aeth yr HMS Victorious a llongau eraill ar ôl y Bismarck a llwyddo i’w suddo hi. Fel rhan o’r Malta Convoy,bu HMS Victorious yn flaenllaw yn cyflenwi nwyddau i Ynys Malta yn ystod bomio gan yr Almaenwyr Roedd HMS Victorious hefyd.yn rhan o’r Arctic Convoy, a bob amser yn dod yn ôl yn saff.
Bob tro roedd Dad yn mynd yn ôl i’r môr, roedd y Parchedig Enoch Rogers yn dod i’r tŷ yn Lerpwl i weddio efo’r teulu. Mi oedd Nain yn bendant mai hwn oedd y rheswm bod Dad yn dychwelyd yn saff bob tro. Aeth y Vic (HMS Victorious) â Dad i America ar ôl Pearl Harbour, i ymuno â’r American Fleet. Ar ôl dychwelyd adre ar ôl diwedd y Rhyfel, aeth i weithio i’r Liverpool Electric Supply.
Cafodd bedair medal ar ôl gadael y Llynges - Y Pacific.Medal,Yr Atlantic Medal, Yr Africa Medal a Medal 1939-45 ond dim yr Arctic Medal. Mi gafodd hon pan oedd yn 92 oed - amser hir iawn i aros yn enwedig gan ei bod mor peryglus yn yr Arctic ac anodd efo’r oerni ond ‘Gwell hwyr na hwyrach!”
Enillodd Dad a Mam ddwy Fedal mor wahanol, ond yn fy marn i, y ddau yn eu haeddu.
Janice
