Y Bigwn

 

Yn ystod y cyfnod clo rwyf wedi dod i adnabod mwy o flodau gwyllt, gloynnod byw ac adar wrth gerdded ar hyd gwahanol lwybrau yn yr ardal a thu hwnt ac wrth ddilyn grŵp Cymdeithas Llên Natur ar facebook a phori yn llyfrau Iolo Williams. Yn ôl Iolo, mae mynd i’r awyr agored ac i ganol byd natur yn’ ffisig meddwl.’ Daeth gweirlôyn y glaw, brych y coed a’r triaglog coch yn enwau newydd imi. Rwyf wedi ceisio ymestyn fy niddordeb ym myd natur ac ehangu fy ngwybodaeth – gobeithio y byddaf yn cofio’r enwau i gyd!! 

 Yn ystod y cyfnod clo mae rhai pobl wedi bod yn dysgu sgiliau newydd megis dysgu iaith newydd neu wedi bod yn dysgu sut i chwarae offeryn cerdd o’r newydd.

Mae rhai wedi cychwyn ar fusnes newydd o’u cartref ac eraill wedi bod yn casglu arian at achosion da.

Mae grŵp Côr-ona ar Facebook wedi diddanu a chysuro llawer ac mae tudalen Facebook Curo’r Corona’n Coginio a sefydlwyd gan ddwy o aelodau staff Merched y Wawr wedi bod yn gymorth i bobl yn ystod y cyfnod anodd hwn. Cyhoeddwyd llyfr ‘Curo’r Corona’n Coginio’, casgliad o ryseitiau, lluniau a chynghorion oddiar y grŵp facebook poblogaidd hwn. Ymysg yr holl ryseitiau, mae rysait gan Martha Cordiner – mae mwy o hanes y llyfr gan Martha a rysait arall ganddi yn y rhifyn hwn.

 Rhaid edmygu’r unigolion prysur hynny sydd wedi bod yn gwneud gwaith gwirfoddol fel y criw lleol fu’n casglu sbwriel ar hyd ochrau ffordd osgoi’r dref a ffyrdd cyfagos (darllenwch erthygl ddifyr Siân Jones ‘Cofidiadur’ yn y rhifyn hwn).

Poblogaidd a chyfleus ydi’r llwybr newydd i feicwyr ac i gerddwyr o Ffordd Ystrad i gyfeiriad y cae pêl-droed a’r parc.

Newydd hefyd yw’r gwasanaethau o Sul i Sul i rai eglwysi ar Zoom tra bod eraill yn addoli yn eu capel mewn ffordd ddiogel a chyfrifol.

Mae ein harferion siopa wedi newid ac yn newydd hefyd – cyfle i ni siopa’n lleol ac i gefnogi busnesau’r dref er bod fan Tesco a’u tebyg yn ymwelwyr cyson yn ein strydoedd.

 


Gweirloyn y GlawBrych y CoedTriaglog coch

 

Ond mae’r pandemig yn newydd hefyd yn ein gwlad ac wrth imi fwynhau’r naill beth a’r llall, dw i’n teimlo’n anghyfforddus o bryd I’w gilydd tra bod cymaint yn dal i ddioddef, a’r haint yn magu nerth yn ein cymunedau unwaith eto.

Mae yna bobl fregus a phobl unig, pobl sy’n pryderu a phobl sy’n wael yn ein hardaloedd o hyd.


 Yn y rhifyn hwn mae Dewi Rogers sy’n byw yn Perugia yn yr Eidal, yn sôn am ei ymweliad â Pero ger Milan yn ddiweddar. Eglura fel y mae’r coronafeirws wedi amharu gymaint ar fywyd yno. Gwag yw’r byrddau yn nhŷ bwyta Delfino yn Pero ac mae yna ystafelloedd gwag yng Ngwesty’r Embassy ar draws y ffordd. Yn lle teithio’r byd efo’i waith, mae Dewi bellach yn defnyddio Zoom yn ei swyddfa yn Perugia i gysylltu â’i gwsmeriaid ledled y byd.

 Yn y rhifyn hwn hefyd mae Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol yn cyfeirio at y cariad cymdogol sydd wedi bod yn fendith mewn cyfnod o ofn mewn rhannau o’r byd ac mae yna sawl enghraifft o’r cariad a’r consyrn lleol yma yn Ninbych ac ar draws y wlad yn ystod cyfnod y pandemig.

Mae Gareth Evans sy’n enedigol o Ddinbych yn byw bellach yn Ho Chi Minh City (Saigon) yn Fietnam. Mae’n ddiolchgar fod ymateb y Llywodraeth yno i’r coronafeirws wedi bod mor effeithiol – caewyd y ffin a gwrthodwyd mynediad i bob ymwelydd yn gynnar ym mis Mawrth. Sonia Gareth am gyfnod llym cwarantîn yno ac am gau ysgolion a ‘does na neb wedi bod yn cwyno am wisgo masg nag am y cyfnod clo byr a gafwyd yma,’meddai.

Mae mwy o hanes Gareth yn y rhifyn hwn.


Yn ddiweddar cynhalwyd Wythnos  Dathlu Dysgu Cymraeg ar Radio Cymru a braf oedd gwrando ar ddysgwyr o bell ac agos sydd wedi ’croesi’r bont’ ac yn rhugl yn eu Cymraeg bellach fel Shaun o Washington D.C. sy’n byw nawr yng Nghaernarfon ac Isata Kanneh o Lanidloes ond wedi ei geni yn Sierra Leone. Mae llawer ohonynt wedi dysgu Cymraeg ar y we gan ddilyn cwrs ar SaySomethinginWelsh neu Duolingo.

Diddorol oedd gwrando ar Aran Jones, un o sylfaenwyr SaySomethinginWelsh yn sgwrsio efo Beti George ar y rhaglen ‘Beti a’i Phobol’ ar Radio Cymru’n ddiweddar.

 Mae gennym ni ein dysgwyr hefyd yn ein Canolfan Iaith/Popeth Cymraeg ac yn y rhifyn hwn mi gewch eu hanes yn dysgu’r iaith ar Zoom yn ystod y cyfnod clo ac mae cyfraniad hefyd gan eu tiwtor, Nerys Ann Roberts.

Diolch am bob cyfraniad i’r rhifyn hwn o’r Bigwn mewn cyfnod anodd a diolch i Dyfrig am ei amynedd a’i waith.

 

Erfyl Williams

O.N. Ar Hydref 26, ganwyd Owen Minh Tran Evans, mab i Gareth Evans a Hope yn Fietnam. Llongyfarchiadau i Gareth a Hope a’u teuluoedd.