Ar ôl dros pum mis o beidio â bod yn yr ysgol i nifer o’n disgyblion oherwydd Cofid 19, fe ddychwelodd pawb yn ôl i’r ysgol ar Fedi’r 3ydd. Ond mae pethau yn dra gwahanol o fewn yr adeilad eleni, gan fod pob blwyddyn o fewn ei hardal ei hun, a dim yn cymysgu rhwng y blynyddoedd. Mae blwyddyn 7 yn cael eu gwersi i gyd yn yr adran ITM a Dyniaethau, tra mae blynyddoedd eraill yr ysgol o fewn yr adrannau eraill.
Rydym wedi croesawu 186 o ddisgyblion newydd i flwyddyn 7 eleni ynghyd â 69 disgybl sydd wedi dychwelyd i fl 12. Yn ôl yr arfer braf yw croesawu nifer o staff newydd hefyd megis athrawon, mentoriaid academaidd a chymorthyddion, gan obeithio y byddan nhw i gyd yn hapus yn ein plith. Rydym yn croesawu Ms Sioned Charters yn ôl fel Arweinydd Cynnydd Bl 7 ar ôl ei chyfnod mamolaeth.
Dyma gofnod gan Mabon Aled Roberts o’r cyfnod clo cyntaf. Disgybl ym ml 8 yw Mabon.
Pan glywais fod y cyfnod clo ar ddechrau, mae’n rhaid i mi gyfaddef, roeddwn ychydig yn gyffrous wrth feddwl am golli ambell ddiwrnod o’r ysgol. Roedd y syniad o wyliau ychwanegol yn swnio’n grêt! Wrth gwrs, bryd hynny doeddwn i ddim yn gwybod ein bod am fod adref am chwe mis hir!
Roedd y diwrnod cyntaf adref yn rhyfedd gan fod rhaid i fy chwaer fawr oedd ym mlwyddyn 9 fynd i’r ysgol. Ar ôl gwneud hwyl ar ei phen fod rhaid iddi fynd i weithio’n galed tra mod i adref, mwynheais y diwrnod yn ymlacio. Roedd hi’n teimlo fel dydd Sadwrn, cael gwneud unrhyw beth roeddwn i eisiau. Yr unig wahaniaeth oedd nad oeddwn yn cael gadael y tŷ.
Fe wnaeth y dyddiau a’r wythnosau basio’n sydyn. Roedd gweithgareddau newydd yn ein tŷ ni fel ‘facetime’ wythnosol y teulu a’r cwis bob nos Sul. Roedd hyn yn ffordd o gael hwyl ac yn ffordd i ni gadw cysylltiad gyda Taid a Nain yn Y Bala a gweddill y teulu o’r De.
Un arferiad wnaeth ddatblygu yn ein tŷ ni oedd coginio bara banana oedd yn flasus ofnadwy. Roedden ni hefyd yn rhannu’r bara banana hefo’r henoed mae dad yn eu gwarchod yn ei waith yn ardal Dinbych. Roedd dad yn dweud eu bod yn falch o gael y danteithion blasus ac roedd yn ffordd o roi gwên ar eu hwynebau mewn cyfnod mor anodd. Bu’n rhaid i mam roid ‘routine’ i ni er mwyn cadw trefn ar faint o waith roedden ni’n ei wneud, faint o ymarfer corff ac amser hamdden. Roeddwn i’n falch o hyn oherwydd roedd o’n rhoi trefn ar y diwrnod - ond dwi’n siŵr nad oedd y cyfrifiadur druan yn hapus, gan ei fod wedi mynd o brin cael ei ddefnyddio, i’w gael ei ddefnyddio bob dydd oherwydd bod tasgau’r ysgol yn cael eu gosod ar Google Classroom.
Bob nos Iau am wyth o’r gloch mae fy hoff raglen teledu sef ‘Your home made perfect’, ond nid dyma oedd y peth pwysicaf i’w wneud ar nos Iau. Uchafbwynt yr wythnos oedd sefyll fel teulu ar y stryd er mwyn clapio a tharo dwy sosban gyda’i gilydd fel arwydd o ddiolch i holl weithwyr y GIG am eu gwaith caled o gadw pawb yn iach. Roedd hi’n hyfryd gweld gymaint o bobl ar y stryd yn dathlu’r Gwasanaeth Iechyd.
Erbyn diwedd y cyfnod clo, mae’n rhaid i fi gyfaddef nad oeddwn yn methu neb gormod, ond roeddwn o ddifri wedi diflasu braidd gyda chwmni fy nheulu! Roeddwn yn falch o ddychwelyd i’r ysgol a gweld pawb. Roedd hi’n rhyfedd mynd yn ôl i drefn, a gorfod mynd o beidio bod yn yr ysgol i fod nôl llawn amser...ond rwy’n falch o gael cymdeithasu hefo fy ffrindiau a bod nôl mewn gwersi.

Prif Ddisgyblion 2020 – 2021
Prif Ddisgyblion 2020 – 2021
Llongyfarchiadau i’r canlynol ar gael eu hethol i fod yn Brif Ddisgyblion:
Prif Ddisgyblion: Leah Davies ac Owain John
Dirprwyon: Fflur Evans, Miriam Owen, Daniel Dain-Dodd, Rhydian Roberts
Tîm Egni yn ennill gwobr ariannol i Ysgol Glan Clwyd
Fel y gwyddoch, roedd Tîm Egni i fod i deithio i America dros y Pasg i gystadlu unwaith eto yng nghystadleuaeth First Lego League, ond oherwydd y Cofid, bu siom enfawr i’r Tîm fod popeth wedi dod i stop. Ond ar ddiwedd yr haf, cawsant wybod eu bod wedi bod yn llwyddiannus trwy ennill Cystadleuaeth Ysgolion Rhanbarthol STEM Shell - The Bright Ideas Challenge 2020!
Roedd rhaid i’r disgyblion fynd ati yn ddyfeisgar i gynllunio ateb i heriau egni sy’n wynebu dinasoedd y dyfodol gan ddefnyddio eu sgiliau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM). Bydd y wobr o £4,000 yn mynd tuag at offer, adnoddau a gwasanaethau sy’n cefnogi datblygu addysg STEM yn yr ysgol. Yn ogystal â’r wobr ariannol, cafodd y disgyblion becyn anrheg yr un sy’n cynnwys:
- Tanysgrifiad 12 mis ‘Tinker Crate Kit’ gan Kiwico, pecyn i danio chwilfrydedd a chreadigrwydd arloesol.
- Pecyn ‘Spark’, cyfle i’r disgyblion adeiladu consol eu hunain a synth cerddorol trwy godio
- Tanysgrifiad 3 mis ‘Future Investors Club’, cyfle i ddatblygu codio i’r lefel nesaf!
I ddarllen mwy am y gystadleuaeth ewch i wefan shell.co.uk/brightideaschallenge
Llongyfarchiadau mawr i’r Tîm Egni ar eu llwyddiant ysgubol!
Mentoriaid ifanc.

Mentoriaid Ifanc yn yr Hafan
Cawsom gyfarfod cyntaf y flwyddyn gyda ein Mentoriaid Ifanc newydd. Bu'r criw wrthi'n brysur yn trafod a threfnu dulliau i gefnogi disgyblion blwyddyn 7 cyn mynd ati i greu fideo arbennig iddyn nhw. Yn sgîl hyn bydd cefnogaeth yn cael ei roi i ddisgyblion blwyddyn 7 er y cyfyngiadau presennol. Gwaith gwych, fentoriaid.
Gan nad ydym yn gallu cynnal ein Noson Agored yn y dull arferol, mae’r ysgol wedi creu tudalen trosglwyddo i ddarpar ddisgyblion i’w galluogi i gael y wybodaeth yn rhithiol. Ewch draw am sbec!
Bydd yr UDA yn cynnal sesiwn cwestiwn ac ateb yn dilyn derbyn cwestiynau gan rieni blwyddyn 6. Os ydych yn awyddus i dderbyn recordiad o’r sesiwn cwestiwn ac ateb i rieni disgyblion blwyddyn 6 yn dilyn yr hanner tymor, gallwch gofrestru ar gyfer hyn ar:
