Y Byd ar Sgrin
Mae ein parodrwydd i wario oriau di-ri o’n hamser o flaen sgrin yn gwylio’r byd yn mynd heibio, boed hynny drwy gyfrwng teledu, cyfrifiadur neu ffon symudol, wedi fy nharo i’n fwy nag unrhyw beth arall dros y cyfnod clo penodol hwn. Er hyn, pwy ydw i farnu? Dwi yn yr un cwch a phawb arall. Mae’r diwrnodau cynnar o godi am chwech y bore, mynd am jog, mynd ar daith ar y beic, pobi bara, ymgeisio ar fenter busnes, i enwi rhai, wedi diflannu. Mae diflastod wedi dechrau cydied ac mae'r diwrnodau pellach yn uno mewn i’w gilydd; y diwrnodau yn undonog ac mae wythnos gyfan yn hedfan heibio cyn i ni droi rownd.

Mae ein harferion wedi newid yn gyfan gwbl, un enghraifft o hyn yw ein harferion siopa. Datganodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod hyd at un rhan o dair o holl siopa'r wlad hon yn cael ei wneud ar-lein bellach, o gymharu â chanran o dan ugain y cant yn 2019. Mae hyn yn godiad eithriadol o uchel mewn cyfnod byr o amser. Yn syfrdanol, mae mwy nag un rhan o dair o’r holl siopa yr ydym yn ei wneud ar-lein yn cael ei wneud trwy'r fân-werthwr digidol, Amazon. Mae hwylustod yn cyfri am gymaint y dyddiau yma, mae’n bosib cael unrhyw beth oddi ar y we dydy.

Newid arall roeddwn i wedi ei ddarllen oedd bod gwasanaethau'r capeli ac eglwysi wedi denu nifer o bobl na fyddai fel arfer yn mynd i gapel tuag at grefydd. Yn ôl arolwg a gasglwyd gan y Guardian, mae chwarter o oedolion y wlad hon wedi gwylio neu wrando ar wasanaeth crefyddol ers dechrau'r cyfnod clo, ac mae un o bob ugain o bobl wedi dechrau gweddïo yn ystod yr argyfwng. Mae’r argyfwng wedi arwain tuag at bobl yn darganfod ffydd a chysur ysbrydol. Yn bennaf i orffen ar nodyn pwysig dwi’n siŵr fe ddown allan o’r cyfnod clo yn bobl gryfach, sydd wir yn gwerthfawrogi'r pethau pwysicaf - y bobl agosaf i ni, ein teulu, ffrindiau a’n perthnasau.
Morgan Cordiner
