
Clwb Rygbi Dinbych

Hoffwn ddiolch i Tegid Phillips, Llywydd y Clwb, am roi caniatâd i ni rannu rhannau o’i Gylchlythyr a gyhoeddwyd ganol mis Rhagfyr. Mae nifer o ddatblygiadau eraill ers hynny!
Hyd yn oed nad oes llawer o rygbi wedi cael ei chwarae yng Nghlwb Rygbi Dinbych, mae nifer o ddatblygiadau o fewn y Clwb.
Is-bwyllgor Caeau
Ym mis Medi, cwblhawyd y broses o hadu’r cae ymarfer ac rydym yn falch fod y glaswellt wedi cydio. Gobeithir cwblhau uwchraddio’r draeniad yn y Gwanwyn ac felly cwblhau’r gwaith ar y cae ymarfer.
Hefyd yn y Gwanwyn neu Haf cynnar, bydd gwaith yn mynd ymlaen i wella’r llifoleuadau, wrth ddefnyddio goleuadau LED a 3 mast newydd 15 medr o uchder. I helpu talu am y gwaith, mae’r is bwyllgor yn brysur ymgeisio am grantiau o nifer o ffynonellau
Fel Clwb, rydym yn ddiolchgar iawn i’r Adran Mini ac Ieuenctid sydd wedi gwirfoddoli ail beintio'r pyst ar y ddau gae. Yn ogystal, yn y flwyddyn Newydd, bydd un o hyfforddwyr yr Ieuenctid, Phil Morris, yn plannu glasbrennau er mwyn creu gwrych ger y ffens uchaf y maes parcio.
Is-bwyllgor Chwarae a Hyfforddi
Mae'r wythnosau diwethaf wedi gweld camau calonogol tuag at ddychwelyd i rygbi. Ym mis Medi, ar ôl derbyn caniatâd Undeb Rygbi Cymru, ail ddechreuwyd sesiynau ymarfer digyswllt. Gwnaed paratoadau manwl gan yr uwch dîm hyfforddi i sicrhau diogelwch chwaraewyr a chydymffurfio â chanllawiau URC. Roedd hyn yn cynnwys gofyn i bob hyfforddwr a chwaraewr gwblhau cwrs hyfforddi ar-lein Rygbi'r Byd. Mae hefyd yn ofynnol i bob chwaraewr gwblhau gwiriwr symptomau cyn mynychu sesiwn hyfforddi. Hoffai'r Pwyllgor nodi diolch yn ogystal i Reolwr Gweithrediadau Covid swyddogol y Clwb, Tegid Phillips a rheolwr y tîm cyntaf, Sam Jones am eu holl waith caled yn y cefndir i ganiatáu rhyw elfen o rygbi i ddychwelyd i Gaeau Les Phillips.
Ar ôl y Cyfnod Clo Byr, dyfeisiodd yr hyfforddwyr y "Twrnament X-Mas" i ennyn diddordeb y chwaraewyr wrth aros i'r gêm lawn ddychwelyd. Mae hon yn bencampwriaeth o fewn y clwb sy'n dilyn y fformat Rygbi X di- gyswllt ac wrth gwrs mae'n cydymffurfio'n llawn â chanllawiau'r Llywodraeth ac URC. Cofrestrodd bron i 50 o chwaraewyr i gymryd rhan; arwydd calonogol bod brwdfrydedd ein chwaraewyr dros y gêm yn parhau'n gryf. Rhannwyd y chwaraewyr i 6 thîm a enwyd ar ôl rhai o hoelion wyth y clwb sef Terry Bryer, Berwyn Evans, Jeff Jenkins, Peter Minshull, Les Phillips a Meurig Voyle.
Yn dilyn cystadleuaeth frwd drwy fis Tachwedd, mae tîm Jeff Jenkins ar hyn o bryd ar frig y tabl gyda mantais o bwynt dros dîm Peter Minshull. Y sgorwyr uchaf hyd yma yw Henry Maitland-Davies a Jac Jones gyda 9 cais yr un. Y gobaith yw y gall y twrnamaint ailddechrau ar ôl y Nadolig a chael ei gwblhau. Diolch hefyd i Ed Brown sydd wedi rhoi o’i amser i ddyfarnu'r rhan fwyaf o'r gemau.
Oddi ar y cae, datblygiad arwyddocaol arall fu cyflwyno pecyn adnoddau rygbi ar gyfer ysgolion cynradd lleol a baratowyd gan yr hyfforddwr Geraint Madoc Jones. Bydd hwn yn adnodd gwerthfawr i'r ysgolion a gobeithio y bydd yn ysbrydoli cenedlaethau newydd o chwaraewyr Clwb Rygbi Dinbych at y dyfodol.
Is Bwyllgor Tŷ Clwb
Ar adegau, mae’r Clwb wedi bod ar agor, yn cynnwys diwrnod y gêm rhwng Cymru a Lloegr; roedd y byrddau i gyd wedi eu defnyddio gyda 50 unigolyn wedi cadw lle o flaen llaw. Gobeithir agor y Clwb ar Ŵyl San Steffan, ond mae popeth yn dibynnu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru.
Newyddion Ychwanegol
- Sefydlwyd grŵp i gwblhau archwiliad o ddogfennau’r Clwb, gyda’r amcan diwethaf o gofnodi bob dogfen bwysig yn ddigidol. O dan arweiniad Jeff Jenkins, mae’r grŵp wedi gwneud dechreuad hynod o bositif.
- Yn ddiweddar, bu’r Clwb yn rhan o raglen S4C, Tŷ Rygbi, gyda ffocws yr eitem ar sut oedd y Clwb wedi ymateb i sefyllfa Covid 19. Roedd nifer o dîm dan 16 wedi troi allan i ymarfer ar y noson, gyda’r rhaglen yn cyflwyno’r Clwb mewn golau hynod o bositif.
- Gyda rygbi cystadleuol yn dipyn o amser i ffwrdd, mae Pwyllgor y Clwb wedi bod yn canolbwyntio ar nifer o brosiectau posibl, gan gynnwys uwchraddio Maes Terry Bryer, cyflwyno rygbi i’r merched a hefyd denu mwy o wirfoddolwyr i’r Clwb.
Fe gyhoeddodd URC “Cynllun diweddaraf Dychwelyd i Rygbi Cymunedol” ar 18 Rhagfyr, ac mae’r isod yn hynod berthnasol i glybiau tebyg i Glwb Rygbi Dinbych:
... mae penderfyniad wedi’i wneud na fydd rygbi’r Gynghrair Genedlaethol yn digwydd y tymor hwn. Mae hyn yn cynnwys holl Gynghreiriau Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru i ddynion a merched ar lefel uwch ac ieuenctid ac, o ganlyniad, ni fydd timau’n cael dyrchafiad nac yn cwympo’r tymor hwn; bydd eu statws cynghrair presennol yn cael ei drosglwyddo i’r tymor nesaf.
Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, “Ry’n ni’n gweithio’n galed gyda’r holl bartneriaid i ddychwelyd i ryw fath o rygbi cymunedol cystadleuol yn ôl cyn diwedd y tymor ac ry’n ni’n teimlo bod y cynllun hwn yn adlewyrchu hynny. Ry’n ni wir yn ymwybodol o faint mae pobl yn gweld eisiau rygbi. Ry’n ni hefyd yn gwybod bod ein clybiau, sydd wedi bod yn esiampl ardderchog yn ystod yr argyfwng iechyd hwn, yn dal yn wynebu heriau. Mae eu pryderon ynglŷn â’r posibilrwydd o bobl yn rhoi’r gorau i’r gêm yn ystod y cyfnod hwn, lle mae bywyd rygbi pawb wedi gorfod newid, yn gwbl glir.
Fodd bynnag, mae angen i ni ddod â’r gêm yn ôl yn ddiogel ac yn gynaliadwy pan fydd canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu hynny.”
