Goleuni o’r diwedd, a’r gornel ‘di throi
mae giatia’r dyfodol dim mwyach ‘di cloi.
Canlyniad arbrofion sy’n cryfhau ein hyder,
Bod amser yn hapusach, drwy leihau y pryder.
Datganiad gwyddonwyr, maent rwan mwy parod
mwy o ffigyra’ ar flaen eu tafod.
Mae’r ffisig yn ymladd a’r firws yn styfnig
Ymchwiliad gwyddonwyr sy’ mor arbennig.
Mae dwylo cymaint yn estyn i gyfarch
Eisteddfod o ddathlu, curiad lot cryfach.
Curiad y gallon yn cyflymu drwy syllu
Y brechlyn yn cyrraedd a’r wên yn ymledu.
Mewn amser go fuan, cawn ddechra’ ymgasglu
Sipian yn araf, dechreuwn ni ddathlu.
O’r diwedd a’r flwyddyn yn do di ben
Mae lot mwy o drefnu tu ôl i’r llen
Y fyddin frechlynnau sy’n cynilo’n eu miloedd
Chwistrellau’r dyfodol sy’n llenwi ein silffoedd.
Wal y dyfodol, eon llwybra’ mwy clir
Cawn gadw y mwgwd, i ddarganfod ein tir.
Y gwyrdd o’r caeau, y glas uwch ein pennau
Ein gobaith yn ddisglair yn chwipio mewn tonnau,
Rhuthro i’n cwrdd a disgwyl dim rhagor
Llwyddiant y brechlyn, ein gwên fydd y factor!!
Gareth Roberts
