Y Bigwn

Clawr y Llyfr

Roedd Anne Gwynne yn ysgrifennu colofn am deithiau maes Cymdeithas Edward Llwyd ym mhapurau bro Y Ddolen a’r Barcud, yn ardal Tregaron. Nid dim ond pob hyn a hyn ond bron yn ddi-dor rhwng 2004 a 2018. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae hi wedi bod yn brysur yn taflu ei llygaid drostyn nhw unwaith eto. Mae detholiad o 38 wedi dod at ei gilydd i greu cyfrol fach hwylus gyda lluniau braf a hanesion o rai o lecynnau braf sir Ceredigion a thu hwnt.

Bydd ar werth yn eich siopau lleol cyn y Nadolig am £7.95 neu oddi wrthi hi, Anne Gwynne ar 01794 298995. Rhennir unrhyw elw rhwng Cymdeithas Edward Llwyd, Ambiwlans Awyr Cymru ac Adran Cemotherapi, Ysbyty Bronglais.

 cymdeithas edward llwyd