
Gwynfor Roberts
Wrth i’r rhifyn hwn o’r Bigwn fynd i’r wasg, daeth y cyhoeddiad fod brechlyn Rhydychen/AstraZeneca wedi cael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio yng Nghymru a gwledydd eraill y DU, a bydd yn cael ei ddosbarthu ledled y wlad yn y Flwyddyn Newydd. Dwi’n sicr eich bod yn cofio prif stori ar newyddion cenedlaethol Cymru a Phrydain ar Ragfyr 7fed, sef fod y cyflenwad cyntaf o’r brechlyn Pfizer-BioNTech (BNT162b) wedi cyrraedd Ysbyty Maelor yn Wrecsam. Cymru hefyd oedd y wlad cyntaf yn y byd i dderbyn cyflenwad o’r brechlyn yn ystod yr wythnos flaenorol.
A pwy oedd yn gyfrifol am gludo’r llwyth amhrisiadwy cyntaf hwn o Bencadlys Gwasanaeth Gwaed Cymru ym Mhontyclun i Wrecsam? Neb llai na Gwynfor Roberts, o Ffordd Rhuthun, yma yn Ninbych. Roedd ffilm ohono’n trosglwyddo’r pecyn o gefn ei fan bach gwyn i ofal Ysbyty Maelor ar gychwyn bob bwletin newyddion welais i y noson honno, ac yn eithaf posibl, ledled y byd! Dywedodd yr artist byd-enwog Andy Warhol rywbryd fod pawb am fod yn fyd-enwog am 15 munud. Efallai fod Gwynfor wedi bod yn fyd-enwog am 15 eiliad!
Mae Gwynfor wedi bod yn gweithio i’r Gwasanaeth Negesydd Iechyd GIG Cymru ers 15 mlynedd, ac er fod gen i ryw fath o syniad o beth oedd ei waith, doeddwn i ddim mewn gwirionedd yn gwybod fawr ddim am y gwasanaeth. Cewch ddysgu llawer iawn mwy ar y wefan
https://pcgc.gig.cymru/ein-gwasanaethau/y-gwasanaeth-negesydd-iechyd/
sy’n dweud, “Mae Gwasanaeth Negesydd Iechyd GIG Cymru yn cefnogi gwasanaethau rheng flaen ledled Cymru, gan weithio 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn lle mae angen. Rydym ni’n darparu gwasanaethau logisteg clinigol hanfodol ar gyfer gofal sylfaenol a gofal heb ei drefnu mewn ysbytai, clinigau, meddygfeydd meddygon teulu, fferyllfeydd ac ysgolion (Rhaglenni imiwneiddio).”
Fel arfer mae Gwynfor yn teithio o gwmpas Gogledd Cymru, yn cynnwys canolfannau’r Gwasanaeth yma yn Ninbych, Llanfairfechan, Wrecsam a Thywyn. Ond ers i’r Pandemig ein taro, mae wedi teithio i bob cornel o’r wlad, cyn belled â Chasnewydd, er mwyn dosbarthu eitemau hanfodol megis Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a llawer iawn mwy. Dydy Gwynfor heb gyfri’r pellter mae wedi teithio eleni, na chwaith yn ystod ei yrfa, ond mae’n siwr iddo wneud degau o filoedd o filltiroedd. Ond yn ôl y wefan, mae 120 o gerbydau’r Gwasanaeth yn teithio 2.6 miliwn o filltiroedd bob blwyddyn i ddosbarthu mwy nag 8 miliwn o eitemau patholeg.

Gwynfor gyda'r brechlyn cyntaf yn cyrraedd Ysbyty Maelor
Mae Gwynfor yn mynd i nôl y brechlyn, sy’n cael eu storio ar dymheredd o -70°C, erbyn 9.30 ar fore dydd Mawrth. Mae’n cael ei drosglwydd i gefn y fan a’i gadw mewn rhewgell ar dymheredd o rhwng 2°C ac 8°C gan ddefnyddio’r “temperature code control unit”. Mae hyn yn golygu fod y brechlyn yn ddiogel i’w ddefnyddio cyn diwedd yr wythnos.
Mae 195 o boteli bach yn y bocs, sy’n ddigon i frechu 975 o bobl, sef 5 pigiad ym mhob potel. (Dwi’n ddiolchgar i Gwynfor am wneud y syms i mi!)
Pan ofynnais i Gwynfor beth oedd ei farn am rai sydd wedi bod yn heidio’n ddiweddar i fynyddoedd Eryri, Bannau Brycheiniog ac, yn agosach i gartref, Llyn Brenig, er mwyn gweld yr eira, gan efallai greu mwy o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd, penderfynwyd na ddylem gynnwys ei sylwadau mewn cyhoeddiad parchus! Ond efallai cawn ddyfynnu yr Athro Hugh Montgomery sy’n gweithio mewn Uned Gofal Dwys yn Llundain ac yn dweud yn blwmp ac yn blaen fod gan y rhai sy’n anwybyddu rheolau Covid-19 “waed ar eu dwylo”.
Mae Gwynfor wedi cael gormod o brofiad o’r effaith mae Covid-19 wedi cael ar fywydau pobl. Rhoddodd nifer o enghreifftiau i mi, ond un trawiadol oedd pan aeth â’r cyflenwad cyntaf o’r brechlyn i Gartref Gofal Bryn-yr-Haul yn Rhydgaled, ger Yr Wyddgrug. Roedd yn brofiad hynod emosiynol wrth iddo gerdded i mewn i’r cartref a gweld rhyddhad, llawenydd a diolchgarwch ar wynebau’r staff a’r trigolion wrth dderbyn llygedyn o obaith am amser gwell i ddod.
Mae gan bob un ohonom reswm i fod yn ddiolchgar i rai fel Gwynfor a’i debyg sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd, mewn cartrefi gofal ac mewn sawl maes arall. Mae gennym hefyd gyfrifoldeb i ymddwyn mewn ffyrdd cyfrifol a dangos parch tuag at eu hymdrechion arwrol ac anhunanol ar ein rhan.
John Davies
