Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2020
Gwobr arbennig i Catrin Rhys Williams Rheolwr Busnes Clwstwr Ysgol Glan Clwyd

Catrin Rhys Williams
Rydym yn hynod falch o lwyddiant diweddar Catrin yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru. Enillodd yn y categori 'Rheolwr Busnes/Bwrsar Ysgol' y flwyddyn.
Mae'r rôl mae Catrin wedi ei chwarae dros gyfnod yn yr ysgol hon ac ysgolion clwstwr Ysgol Glan Clwyd wedi bod yn greiddiol wrth ddatblygu'r safle newydd a sicrhau fod y weledigaeth o barhau addysg Gymraeg yn yr ardal yn cael ei chefnogi i'r eithaf. Ymfalchïwn yn ei llwyddiant hi a'r staff sydd yn gweithio'n ddiflino o fewn y tîm busnes.
.
'Gobaith yn y Crud'
Mor braf oedd gallu ffarwelio efo 2020 ar nodyn uchel a chadarnhaol. Comisiynwyd ein cyn-ddisgyblion talentog, Steffan Rhys a Mared Williams i gyfansoddi carol newydd sbon ar ein cyfer ; 'Gobaith yn y Crud'. Cân gyfoes, anthemig ac amserol, ond yn bwysicach oll, yn gân y cafodd y disgyblion a'r staff fwynhad mawr yn ei dysgu a'i chanu. Diolch yn arbennig i Mr Aled Evans am roi popeth at ei gilydd, nid tasg hawdd yn sicr! Roedd cael cyfle i ganu a pherfformio'n saff wedi codi calon staff a disgyblion ar ddiwedd tymor heriol iawn.
Cyfarfod Tywysoges Kate
Fy enw i yw Charlton Taylor ac rydw i’n dysgu Cymraeg fel rhan o’r cynllun Trochi yn Ysgol Glan Clwyd. Ar ddiwrnod Coffa 2020 cefais gyfarfod Zoom hefo Tywysoges Kate. Roeddwn i’n gwisgo siwt gadael ysgol gynradd achos roeddwn i eisiau edrych yn smart. Rydw i wedi cyfarfod Tywysoges Kate o’r blaen. Roedd hi’n neis iawn ac yn hawdd siarad hefo hi. Roeddwn i’n dangos medalau Dad o’r fyddin achos mae’r tair medal yn dangos beth wnaeth Dad tra yn y fyddin. Dwedodd Tywysoges Kate fy mod i a fy Mam yn ddewr iawn. Gofynnodd Kate a ydw i’n cofio sut un oedd dad. Roedd hi’n braf iawn siarad hefo Kate ac mi fydda i’n cofio’r profiad am byth.
Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
Llongyfarchiadau i Gregory Williams Blwyddyn 12 sydd wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr Young Volunteer of the Year. Cafodd ei enwebu oherwydd ei waith hyfforddi gyda chlwb nofio Rhyl Dolphins. Pob lwc i ti Gregory
Talwrn yr Urdd - Ysgol Glan Clwyd

Gwenno, Fflur a Leah
Bu tîm o ddisgyblion Cymraeg Safon Uwch blwyddyn 13 yn cynrychioli’r ysgol mewn cystadleuaeth Ymryson y Beirdd dan ofal yr Urdd. Cafodd Gwenno Williams, Leah Davies a Fflur Evans eu mentora gan Grug Muse ar gyfer y gwaith cyfansoddi. Darlledwyd yr ymryson ar wefan AMAM a’r beirniad oedd Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru. Maen nhw wedi ennill yn y ddwy rownd gyntaf, ac i’w llongyfarch yn fawr ar gyfer y rownd derfynol.
Dyma flas o’u cyfansoddiadau.
Limrig gan Leah Davies
Does ryfedd y torrais fy nghalon
‘Rôl deffro wedi cael fath freuddwydion
Gefais uffar o sioc
Ar ôl gweld y cloc
A dallt nad fy ngŵr oedd Matt Damon.
Llanw
Cerdd Heicw gan Fflur Evans
Mi ddaeth y llanw
I’n croesawu yn yr haul
Cyn nofio i ffwrdd.
Brwydro’r Haint
Telyneg gan Gwenno Williams
Yno’n torri syched y dydd,
Dan wasgedd y gwefusau marwaidd.
Yn syllu dros y byd o ddioddefaint o’i flaen
Heb synnwyr am y llinell derfyn.
Bywydau’n diflannu fesul un
A’r llofrudd yn parhau i drywanu,
Chwerthin plant yn fud a’r awel yn unig ar y stryd,
Mewn byd o hawlio byw.
Mae curiadau’r peiriant yn arafu,
A’r dŵr wedi cynnig ei lymed olaf.
Daw llygaid y corff i gau llenni’r byw,
A’r cwbl bellach yn rhif arall i’w ddarlledu.
.
Diwrnod Plant mewn Angen 2020
Er mwyn cefnogi’r elusen yma eleni, roedd hi’n ddiwrnod di-wisg gwisg ysgol a casglwyd £920 i’r elusen.
Dydd Gwener, Rhagfyr 11eg, roedd hi’n ddiwrnod siwmper Nadolig, ac roedd nifer o’r disgyblion a staff wedi mynd i’r ymdrech a’r hwyl o wisgo eu siwmper. Fe gasglwyd bron i £400 a bydd yr arian i gyd yn mynd i elusen “Achub y Plant”
Mae disgyblion bl 7 a 10 wedi bod yn casglu nwyddau ar gyfer y banciau bwyd o dan adain Trussell Trust sydd yn dosbarthu’r bwyd yn ôl yr angen lleol.

Yn ystod wythnosau cyntaf mis Rhagfyr cafwyd ymwelydd annisgwyl yn yr ysgol. Daeth corrach bach drwg (Elf on the shelf) i greu ychydig o ddrygioni mewn ambell ardal o’r ysgol: Gweler llun pan ymwelodd â ‘stafell y Pennaeth!
.
#Helynt a Blwyddyn 13
Cafodd disgyblion sy'n astudio Cymraeg Safon Uwch eu gwahodd i adolygu nofel newydd sbon ‘#Helynt’ ar ran Gwasg Carreg Gwalch. Cyflwynodd y disgyblion adolygiadau byr drwy glip fideo. Cawsant hefyd fod yn rhan o noson lansio'r nofel drwy fod yn rhan o sesiwn sgwrsio anffurfiol gyda'r awdures leol Rebeca Roberts, sy'n gyn-ddisgybl o'r ysgol.
Adran Addysg Gorfforol

Llun rhai o’r athletwyr
Gan nad ydym ni fel adran wedi gallu mynychu na chystadlu mewn unrhyw gystadlaethau eleni am resymau amlwg, roedd cael y cyfle i gystadlu mewn cystadleuaeth Athletau dan do yn erbyn ysgolion Cymru yn fraint i ni (yn rithwir wrth gwrs!!).
Hoffem fel Adran felly dynnu eich sylw i'r canlynol o flwyddyn 7 ac 8 sydd wedi dod y 10 uchaf yn y flwyddyn ac mi ydwi yn ffyddiog iawn y bydd rhai gyda siawns o gyrraedd y podiwm drwy Gymru. Bydd y canlyniadau hynny yn ein cyrraedd yn fuan. Llongyfarchiadau i bawb!
Bl 7: Elis Martin, Sam Chan Gizzi, Efan Smith, Harry Stubbs, Meilir Morris
Evie Prior, Madi Jones, Lexi Walsh, Cerys Thomas, Maisie Andrews Whitworth
Bl8: Evan Chow, Wil Davies, Louis Cooper, Owen Davies, Mason Parry
Tia Allport, Molly Evans, Elin Griffiths, Lexi Smith, Magi Pierce
Gwobr pêl droed Cymru
Llongyfarchiadau enfawr i Garmon Edwards-Jones bl9 ar ennill gwobr genedlaethol am ei gamp ym maes pêl droed. Cafodd ei eni hefo nam ar ei lygaid, ac hefo amynedd a dyfalbarhad Garmon, mae wedi dod yn fwy hyderus wrth chwarae peldroed. O’r dechrau, mae wedi bod yn benderfynol o chwarae’r gêm ac mae yn chwarae i tîm ieuenctid Henllan. Cafodd Garmon ei wobrwyo mewn seremoni rithiol drwy gael galwad fideo arbennig gan y chwaraewr cenedlaethol Tom Lockyer.
