Blwyddyn Newydd ddedwydd i chwi oll. Gobeithio bydd 2021 yn flwyddyn well i bawb.
Cefais gerdyn Nadolig gan fy ffrind yn cyfleu ffarwelio a’r flwyddyn i lawer ohonom ‘Twll tîn twenti twenti’. Mae’r cerdyn wedi taro’r hoelan ar ei phen. Heb os mae wedi bod yn gyfnod heriol inni i gyd ac am barhau felly am beth amser. Edrychwn ymlaen am i’r rhai hŷn, bregus a gweithwyr rheng flaen dderbyn y brechlyn.
Bu nifer ohonom golli anwyliaid, gorfod ymbellhau oddi wrth aelodau o’r teulu, colli swyddi a methu rhedeg ein busnesau.
‘Rwyf wedi bod yn ffodus iawn o gael sicrwydd yn fy swydd fel athrawes. Mae fy mlwyddyn gyntaf o ddysgu, heb os, wedi bod yn wahanol iawn i’r disgwyl. Y flwyddyn 2020 yn amser rhwystredig i ddechrau gyrfa newydd ond cyfri fy mendithion fod gennyf waith! Heriol iawn fu y misoedd cyntaf oherwydd y pwysau i roi’r gefnogaeth orau bosibl i’m disgyblion. Plant oedd wedi colli misoedd hanfodol o’u haddysg. Ar ddechrau 2021 ‘rydym yn wynebu yr un her.
Ynghanol cyfnod clo arall methu dysgu’r plant wyneb yn wyneb, hynny mor hanfodol er mwyn galluogi cynnydd a chefnogaeth. Ar hyn o bryd ‘rwyf yn addysgu’r plant dros y we. Er ei fod yn gyfrwng arbennig ac yn galluogi inni gadw mewn cysylltiad gyda’r disgyblion mae hefyd yn heriol. Nid ydym yn gallu rhoi yr un fath o gefnogaeth. Mae’r plant, wrth gwrs, yn methu cymdeithasu gyda’u ffrindiau- hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer eu lles.
‘Rydym fel athrawon wedi gorfod newid ein ffurf o ddysgu, mewn cyfnod byr, ac o wrth gwrs yn dal i ddatblygu ffurfiau newydd.
Martha Cordiner
