Y Bigwn

clwb rygbi dinbych

Clwb Rygbi Dinbych

clwb rygbi dinbych

 

William Pierce Jones

William Pierce Jones

William Pierce Jones

Gyda thristwch rhaid cyhoeddi marwolaeth un arall o hoelion wyth y Clwb, sef Will Pierce Jones. Daeth y newyddion yn sioc fawr i'r rhai a oedd yn adnabod Will neu a oedd wedi'i weld yn ddiweddar yn mynd â’i gi bach ffyddlon Kitty am dro o amgylch y dref. Roedd yn edrych mor dda ac iach, a hyd yn oed yn ystod y pandemig roedd yn ceisio byw bywyd i'r eithaf. Mae llawer yn cofio Will o ddyddiau cynnar y Clwb fel mewnwr cadarn ac ymroddedig, a fwynhaodd ei rygbi ac a oedd yn rhan annatod o fywyd cymdeithasol unrhyw dîm y bu’n rhan ohono. Ar ôl ymddeol o chwarae, cymerodd Will y chwiban a daeth yn ddyfarnwr uchel ei barch yng Ngogledd Cymru.  (“Poacher turned Gamekeeper” ydy’r dywediad Saesneg.) Roedd Will a Jean yn aelodau pwysig a gwerthfawr o daith dramor gyntaf y Clwb i New Mexico ym 1990. Er mwyn paratoi ar gyfer y daith, roedd y cwpl yn allweddol mewn llawer o'r digwyddiadau codi arian a chymdeithasol; roeddent bob amser yn awyddus i gymryd rhan - nid oedd sefyll ar yr ymylon yn opsiwn i'r naill na'r llall. Roedd Will yn gwmni da ac yn llawn hwyl; roedd ei chwerthiniad heintus yn denu eraill tuag ato. Roedd rhywun bob amser yn gwybod ble roedd yn sefyll gyda Will; waeth beth oedd y cwmni, roedd Will bob amser yr un fath.

 

Er gwaethaf cyfraniad Will mewn gwahanol glybiau chwaraeon yn y dref (Criced a Golff yn bennaf, a phêldroed yn fwy diweddar), roedd bywyd teuluol yn hollbwysig i Will. Roedd y teulu yno bob amser i helpu ei gilydd. Roedd Will a Jean fel un; gwnaethant gymaint gyda'i gilydd. Bu’n cefnogi Jean mewn llawer o'i phrosiectau, gan gynnwys pan wnaeth Jean gymaint o'r gwaith o fewn ein Clwb. Byddai'r Clwb wedi bod yn lle llawer tlotach heb gyfraniad y ddau ohonynt. Daeth marwolaeth sydyn Will yn ergyd drom i Jean a'r teulu oll. Rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf a'n cefnogaeth atynt ar yr adeg anodd hwn. Bendith Duw arnoch i gyd.

Tegid Phillips

Llywydd Clwb Rygbi Dinbych