Y Bigwn

Mae’r clefyd Coronafeirws wedi dod ar ein traws yn y wlad hon yn ofnadwy o sydyn yn ddiweddar. Fe welir yn glir bellach bod rhaid i bawb beidio dod ynghyd a chyfarfod yng nghwmni eu gilydd a felly ceisio osgoi y clefyd newydd, cas hwn, sydd yn farwol mewn llawer achos, yn enwedig gyda phobl hyn, ag yn lledu’n gyflym ymhob gwlad. Heddiw y mae holl ysgolion y wlad yn cau, heb arwydd o ail-agor am rai misoedd. Mae swyddfeydd a chanolfannau doctora yn cyfyngu eu cyfleusterau, a’r ysbytai dan straen dychrynllyd, ag yn rhagweld prinder gwelyau yn fuan pan ddaw’r galw yn drymach. Gyda’r holl drafferthion hyn mewn golwg, fe gytunwyd mai gwell fyddai peidio cyhoeddi’r Bigwn yn ei ffurf arferol, gan orfodi’r dosbarthwyr copiau i ddod i gysylltiad agos a’u gilydd, ond yn hytrach i gyhoeddi ar-lein, gan obeithio na phery’r sefyllfa hon yn hir.

 

Y Maer yn arwain yr orymdaith Gwyl Dewi

Y Maer yn arwain yr orymdaith Gwyl Dewi

Gorymdaith Dydd Gwyl Dewi

Gorymdaith Dydd Gwyl Dewi