Gan ystyried natur ei swydd, y mae o gwmpas ei waith- yn gwthio cert a brwsh- yn rhyfeddol o gyson a chydwybodol – yn enwedig yn gynnar ar fore Sul – sydd wedi bod yn wlyb a diflas yn ddiweddar. Son ydw i am y gwr da hwnnw – Lorens yw ei enw – sy’n cadw’n strydoedd – yn enwedig y stryd enwog honno – Stryd y Dyffryn – yn ddi-sbwriel.
Ei waith ef yw’r gris cyntaf, fel petai, yn y frwydr i glirio sbwriel – peth sy’n mynnu cael ein sylw fwyfwy y dyddiau hyn – nid bod glanhau strydoedd yn beth newydd o bell ffordd. Y dydd o’r blaen ‘roeddwn yn dyst i’r radd nesaf yn y frwydr. Sefyll yr oeddwn mewn maes parcio bychan Ym Modelwyddan, oddiar yr A55 – maes parcio gafodd ei gynllunio er cyfleustra y rhai sydd yn ciniawa yn gyflym, yn fwy na dim – mae yma ddau le i brynu bwyd a diod gan fwyta i mewn neu allan. Tua chanol dydd dyma’r lle yn prysuro gyda phobl yn dod i mewn ar frys, yn barod am fwyd. Yn sydyn dyma ddau ddyn – yn gwisgo gwasgod Adran yr Amgylchedd - yn ymddangos a chychwyn cerdded o gwmpas, gan sylwi ar bawb – gyda help camera bychan oedd yng nghlwm yn y wasgod. Ni fu’r hir cyn iddynt sylwi ar bechaduriaid – ni alwaf hwy’n droseddwyr oherwydd hyd y gwelwn, nid oeddent yn cael eu cosbi’n
swyddogol – ‘roedd papurau ar lawr a gweddillion sigarenau yn cael eu sathru yn fan.
Pan ddaeth yn gyfleus i’w holi cefais bod y ddau yn weithwyr egniol ag awyddus – yn cymryd pob cyfle posib i atgoffa pawb am y newidiadau yn ein amgylchfyd sydd yn cael eu hadrodd ar y newyddion yn ddyddiol – yn enwedig am ronynnau plastig sy’n treiddio i ganol pridd, i ddwr,ag wedyn yn ol i mewn i’n cyrff ni oll. Dyma lle daw i’n cof y lluniau truenus a welwn ar y teledu – yn dangos pysgod ag anifeiliaid yn y mor yn cael eu tagu a’u mygu gan fagiau a rhwydi pysgota sy’n glynu iddynt.
Sioc o glywed cadarnhad, y dydd o’r blaen bod ein Cyngor Sir ni yma yn ein cymell i gynnwys plastig tenau – haenau o orchudd dros fwydydd - gyda’r ysbwriel teulu, i fynd at dirlenwi.
Syndod i mi nad oes modd ail-gylchu hwn, er bod croeso, yn ol pob tebyg, i blastig byda mwy o drwch.
Un agwedd ar yr amgylchedd yw sbwriel, wrth gwrs. Un arall yw llygredd yn yr awyr gyda’n hannwyl geir yn troi’n bechaduriaid. Mae’r byd yn deffro’n sydyn iawn i’r peryglon yma, ond er y deddfu am danwydd sydd ar droed ag sydd eto i ddod, y gwir plaen yw bod gormod o gerbydau ar y ffyrdd a bydd newid hyn yn golygu trefn sylfaenol wahanol ym mywyd pawb.
Gwell tewi – digon i ddarllenwyr y Bigwn am yr ystyriaethau difrifol hyn ,am y tro. Diolch i’r drefn, erbyn hyn y mae gwres yn yr helwen, dail ar y coed, y pridd yn cynhesu ag yn cynhyrchu eto.
Ceredig
