Mae cyflwyniad i raglen ar S4c ar hyn o bryd yn cynnwys y geiriau ‘Ein tir, ein Hiaith, ein Diwylliant.’ Bwriad yr erthygl hwn yw tynnu sylw at yr elfennau pwysig yn y modd y datblygodd cenedl y Cymry yn ei thir ei hun, gyda iaith unigryw iddi hi ei hun, a diwylliant sydd gyda’r hynaf yn holl wledydd cred.
Yn y gyfres beth amser yn ôl yn y Bigwn cawsom gipolwg ar y ffordd y gwthiwyd y Brythoniaid o dirwedd Lloegr tua’r gorllewin. Sefydlodd y gangen Frythonig o’r Celtiaid yn y tirwedd a elwir Cymru heddiw, ymhell cyn dyddiau’r Rhufeiniaid ym Mhrydain, sef y mileniwm olaf cyn oed Crist. Yr oedd y Deceangli wedi sefydlu yn y Gogledd Ddwyrain (Dinbych a Fflint), yr Ordoficiaid i’r Gogledd Orllewin (Meirion, Caernarfon, Môn), a’r Cornofiaid yn y canolbarth (Powys).
Mae Cristnogaeth wedi bod yn rhan bwysig o hanes y genedl Gymreig ers dyddiau cynnar iawn. Mae tystiolaeth i hynny yn mynd yn ôl i’r ail ganrif oed Crist. Yn ystod oes y Rhufeiniaid ym Mhrydain sefydlwyd yr Eglwys Geltaidd, ac er iddi gael ei difrodi yn Lloegr yn ystod mewnfudiad y tylwythau barbaraidd, Eingl, Iwtiaid, Sacsoniaid, yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, parhaodd yn fyw yng Nghymru am rai canrifoedd. Cyfrifid y 5ed a 6ed ganrif yn oes y seintiau yng Nghymru pan oedd y mynaich yn sefydlu eu hunain mewn ardaloedd trwy Gymru mewn mannau sy’n dwyn yr enw ‘llan’. Byddai hynny yn digwydd yn ymyl ffynnon neu afon yn fwy aml na dim, am reswm amlwg wrth gwrs. Mae nifer y ‘Llannoedd’ yn dyst i ysbryd cenhadol y mynaich.
Yn nes ymlaen ynyswyd y Brythoniaid oedd wedi sefydlu yn nhirwedd Cymru, ac yn arbennig felly wedi i frenin Mersia adeiladu Clawdd Offa, yn ail hanner yr wythfed ganrif. Yn ystod y canrifoedd nesaf hanes y Cymry oedd ymdrech gwahanol dywysogion i uno’r wlad dan eu hawdurdod fel a ganlyn;
|
Rhodri Mawr (844-878) |
Uno Powys a Seisyllwg gyda Gwynedd. |
|
Hywel Dda (900-950) |
Uno Gwynedd a Powys gyda Seisyllwg a Dyfed. |
|
Maredydd ab Owain (986-999) |
Uno Gwynedd a Powys gyda Seisyllwg a Dyfed. |
|
Gruffydd ap Llywelyn (1039-1063) |
Uno Deheubarth gyda Gwynedd a Powys. |
Llwyddodd Gruffydd ap Llywelyn i uno Cymru dan un tywysog am y tro cyntaf erioed. Eto dim ond am gyfnod byr. Collodd gefnogaeth rhai arweinwyr yn ystod y rhyfel yn erbyn Lloegr ym 1063 a chollodd ei fywyd yn ystod y flwyddyn honno.
Elfen bwysig yn hanes unrhyw genedl yw cyfraith. Datblygiad pwysig yn hanes diwylliant y Cymry oedd gwaith arbennig Hywel Dda, yn gosod mewn trefn arferion cyfreithiol gwahanol rannau o Gymru. Arferion cyfreithiol oedd wedi datblygu dros nifer o ganrifoedd. Roedd hynny’n golygu fod un gyfraith yn weithredol trwy Gymru gyfan, a hynny hyd at amser Llywelyn ein Llyw olaf. Disgrifir Cyfraith Hywel Dda fel un ag ynddi elfennau o drugaredd, ac o synnwyr cyffredin a pharch tuag at hawliau gwragedd a phlant. Mae’n werth nodi mai Cymraeg oedd iaith y Gyfraith.
Mae hanes datblygiad ffyrdd gohebu yn faes diddorol dros ben. Yn y lle cyntaf defnyddid lluniau i gyfleu gwybodaeth; yn dilyn hynny dyfeisiwyd ffurfiau cunffurf gan y Swmeriaid, yna darlun-lythrennau gan yr Eifftiaid; Digwyddodd hyn tua dechrau’r drydedd mileniwm cyn oed Crist. Y Phoeniciaid fu’n gyfrifol yn ddyfeisio math o Wyddor, yn yr ail mileniwm cyn oed Crist. Dyna yw sylfaen bron pob iaith heddiw, yn cynnwys wrth gwrs yr iaith Gymraeg.
Mae tarddiad iaith a’r modd mae iaith cenedl wedi datblygu yn fater o ddiddordeb mawr i lawer. Nid hawdd yw gwerthfawrogi gorchest creu gwyddor, yn cynnwys cytseiniaid a llafariaid, i greu geiriau sy’n cyfleu meddwl a lluniau dealladwy i bob un ohonom. Yn lle bod angen rhai miloedd o ddarluniau i gyfathrebu mae gennym gasgliad o lythrennau, llai na 30 mewn rhif, sy’n ddigonol i gyfleu’r cyfan.
Yn ei lyfr ‘Aros Mae’ ar hanes Cymru dywed Gwynfor Evans fod datblygiad sylweddol wedi digwydd i iaith y Cymry, sef y newid o’r Frythoneg i’r Gymraeg, yn ystod y bedwaredd a’r bumed ganrif oed Crist. Mae’n priodoli’r trawsnewid mawr hwn i weithgarwch egnïol efengylwyr yr Eglwys Geltaidd Gristnogol pan oedd hi ar ei gorau.
Dros gyfnod maith mae’r iaith Gymraeg wedi esblygu i’r hyn sydd gennym heddiw, a dyma rhyw awgrym o’r cyfnodau gwahanol yn y datblygiad hwnnw.
|
Dyddiau cynnar |
Brythoneg llafar |
|
500-800 |
Cymraeg Cynnar Llafar |
|
800-1050 |
Hen Gymraeg |
|
1050-1275 |
Cymraeg Canol |
|
1275-1588 |
Cymraeg Fodern Cynnar |
|
1588 |
Cyhoeddi’r Beibl mewn Cymraeg safonol |
|
1588 ymlaen |
Cymraeg Fodern ddiweddar |
Mewn erthygl yn y gyfres ‘Cof Cenedl VI’ mae Dr Brynle Roberts yn nodi’r hyn sy’n angenrheidiol er lles sefydlu cenedl.
‘Man cychwyn yr ymwybod ȃ chenedligrwydd yw cydnabod arwahanrwydd; tyst i wahaniaeth pobl i’w cymdogion. Mae’r ymdeimlad o gydberthyn a bod yn rhan o undod yn hanfodol yn y syniad o genedl. Elfennau diffiniadol cenedlaethol yw iaith, cyfraith, sefydliadau, tiriogaeth, ffordd o fyw, traddodiad.’
T I Williams.
