Ychydig wythnosau yn ôl daeth fy ngŵr a minnau drosodd o Ynys Manaw am ychydig ddyddiau i aros gyda Mam a Nhad ( Jean a Ceredig ) gan lwytho ein beiciau mynydd ar gefn y car yn gyntaf. Erbyn hyn y mae beicio mynydd yn gyfarwydd iawn i ni – ar Ynys Manaw a hefyd ar rai o ardaloedd Gogledd Cymru. Cawsom brofiad o’r wlad yng nghoedwig Llandegla ychydig amser yn ôl.
Mae hwyl beicio mynydd yn medru cael gafael ynddoch, ag yn eich cymell i chwilio am awr neu ddwy (neu fwy) ar unrhyw ddiwrnod i gael mynd allan i fwynhau. Rhaid dweud ei fod yn waith go galed weithiau – rhaid gyrru i fyny gelltydd os yn bosib – dim gwthio, ond er hynny y mae’r ffrâm a dwy olwyn wedi ei ddatblygu erbyn hyn i raddau anhygoel i wneud pethau’n haws gyda’r faint fynnoch o olwynion geiriau a’r cyfrwy yn medru mynd i fyny ag i lawr yn ôl y galw, ag amryw fanteision gafodd eu dyfeisio’n bwrpasol at feicio mynydd.
Rhaid felly oedd rhoi cynnig ar ardal llyn Brenig er i ni fod yno o’r blaen am ryw ychydig. Ond y tro yma y cynllun oedd ceisio amgylchynu llyn Brenig a llyn Alwen, felly dyma gychwyn ar ddiwrnod cymylog a go wyntog. Gan ddilyn y llwybrau pwrpasol, ‘roedd dilyn ymylon llyn Brenig yn eithaf di-drafferth a darganfod, ymhen amser, y llwybr yn troi am lyn Alwen dros dir mwy garw. Wedi i’r llyn ddod i’r golwg, a dod yn nes ato, gwelem arwydd yn gyrru beicwyr i’r dde o gwmpas y llyn – i un cyfeiriad – tra’r oedd gofyn i gerddwyr droi i’r chwith, i’r cyfeiriad arall.
Ein dymuniad ni oedd troi i’r chwith – dyma, ‘roeddem yn tybio ar y pryd, oedd y ffordd fyrraf o’r ddwy i gyrraedd argae llyn Alwen ag yn ôl at lyn Brenig, gan obeithio cadw’n siwrnai rhag mynd yn rhy faith. Ond ufuddhau a wnaethom, troi i’r dde gan groesi pont gul a llwyddo i ddenu sylw merlod mynydd a ddaeth atom i gael sgwrs.

Cawsom y syniad mai y ni oedd wedi dod ar eu traws nhw oherwydd ‘roeddent yn mynnu sefyll ar y llwybr o’n blaen, a ddim yn awyddus iawn i symud, ond symud a wnaethant ymhen amser ag ymlaen a ni, ag ymlaen, ag ymlaen, ag ymlaen.

Roedd fy nhad wedi dweud wrthyf ei bod yn saith milltir – garw weithiau – i fynd o gwmpas y llyn cyfan, ag erbyn hyn ‘roeddem yn dechrau blino. Ymhen amser dyma gyrraedd yr argae, ag anelu yn ôl am lyn Brenig ar hyd y ffordd fwyaf hwylus. Cyrraedd llyn Brenig ag yn syth i mewn i’r ystafell fwyta, yn awchu am fwyd a diod – y cyfan o safon da iawn, ag yn cael ei weini gan Gymry Cymraeg ifanc.
Dyna felly ein hanes yn crwydro pymtheg milltir o fynydd-dir Hiraethog ar y diwrnod hwnnw gan fwynhau’r awyr iach, yr ymarfer corff a hefyd yr iechyd meddwl sydd yng nghlwm yn y gweithgaredd hwn. ‘Rwy’n teimlo’n gryf bod y manteision hyn yn bethau y dylem eu cyd-rannu, Y mae’n nhw yno i ni, ag yn gofyn i ni eu mwynhau. Gwn nad oes enw rhy dda bob amser yn perthyn i feicwyr mynydd ond peth pwysig yw cadw llwybrau’r beicwyr a cherddwyr ar wahân a felly gwneud tegwch a phawb.
Kirin Gwynn Gilmore
