Y Bigwn

Mae sefyllfa ddiweddar y Coronafeirws wedi arwain at bob un o gemau timau CPD Dinbych yn cael eu gwahardd dros dro tan Ebrill 4ydd pan fydd adolygiad pellach gan FA Cymru. Mae’n bosib bydd estyniad pellach ar waharddiadau bryd hynny, neu’r posibilrwydd o holl gemau’r tymor yn cael eu canslo.

Er bod y Clwb yn parchu’r penderfyniad yma yn llwyr, fe ddaeth y cyhoeddiad ar amser pan oedd y Tîm Cyntaf ar eu gorau wedi iddynt gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cookson Lockstock ar ôl gêm gynderfynol arbennig yn Nyffryn Nantlle.

Fe benderfynodd Dinbych i golli eu mantais o chwarae gartref yn Central Park. Roedd hyn o ganlyniad i gyflwr gwael y cae chwarae wedi’r misoedd gwlyb dros y gaeaf a phyllau o ddŵr yn sefyll ar yr arwyneb.

Wedi dechrau ansefydlog i’r gêm, fe aeth Dyffryn Nantlle ar y blaen wedi 19 munud ar ôl marcio gwael gan amddiffynwyr Dinbych. Er hynny, roedd hi’n gyfartal ymhen ychydig diolch i beniad gwych gan Jake Walker i Ddinbych.

Ar ôl sgwrs hanner amser difrifol gan y rheolwr Dewi Llion a’r hyfforddwr Owain Roberts, daeth Dinbych yn ôl fel tîm hollol wahanol wrth iddyn nhw ddominyddu’r ail hanner. Wedi sawl cyfle agos, roedden nhw’n sicr yn haeddu bod ar y blaen a digwyddodd hynny ar ôl 66 munud gyda gôl arall gan Jake Walker.

Chwe munud yn ddiweddarach, roedd hi’n 3-1 pan sgoriodd Jacob Barratt o bell. Dau funud wedi hynny, fe sgoriodd Barratt ei ail gôl i’w gwneud hi’n 4-1.

Er i Ddyffryn Nantlle lwyddo i sgorio un gôl arall, fe syrthion nhw i 10 dyn ar ôl i Chris Parry dderbyn ei ail gerdyn melyn wedi tacl ddrwg i Mark Roberts, capten Dinbych.

Bydd Dinbych yn wynebu Holyhead Hotspur yn y gêm derfynol sydd i fod i gael ei chwarae ddydd Sadwrn, Ebrill 11eg ar gae chwarae Bae Colwyn sydd ar Ffordd Llaneilian. Does dim cadarnhad hyd yma a fydd y gêm yn cael ei chwarae yn dilyn sefyllfa bresennol y Coronavirus.

Mae’r Tîm Cyntaf yn y 3ydd safle yng Nghynghrair LockStock Cymru – 8 pwynt tu ôl i’r arweinwyr Holyhead Hotspur sydd wedi chwarae mwy o gemau na Dinbych. Er hynny, mae gan Ddinbych 13 o gemau ar ôl i’w chwarae o ganlyniad i’r tywydd gwael dros y misoedd diwethaf. Os bydd y tymor yn cael ei gwblhau, bydd rhaid i’r gemau gael eu chwarae yn ystod misoedd yr haf.

Mae’r Ail Dîm mewn safle gwych i ennill y gynghrair os yw’r tymor yn parhau, wrth iddynt sefyll yn yr ail safle y tu ôl i Fae Colwyn sydd bedwar pwynt o flaen Dinbych. Er hynny, mae gan Ddinbych dair gêm ychwanegol i’w chwarae yn ogystal â deg gêm yn weddill i chwarae.

Roedd gêm olaf yr Ail Dîm yn fuddugoliaeth o 2-0 dros Ail Dîm Pwllheli gyda goliau gan Owen Heath ac Andy Thomas.

Fe enillodd Denbigh Development eu gêm ddiwethaf yn erbyn Betws-y-coed a hynny o 4-1 gyda thair gôl gan Joel Rowlands a Morgan Jones yn sgorio’r olaf. Mae ganddyn nhw bellach 18 pwynt yng Nghynghrair Dyffryn Clwyd a Chonwy, sef y nifer uchaf o bwyntiau mae’r tîm erioed wedi ei gyrraedd ers cael eu ffurfio 3 blynedd yn ôl. Mae ganddyn nhw bedair gêm yn weddill ac mae eu datblygiad eleni yn anhygoel o ystyried mai 16 ac 17 oed yw’r rhan fwyaf o’r chwaraewyr, sydd yn eu tymor cyntaf o bêl-droed oedolion.