Yn dilyn buddugoliaeth annisgwyl, ond canmoladwy, ym Methesda, un o geffylau blaen yr Adran, doedd dim cyfle i’r Tîm Cyntaf ymlacio yn eu gemau nesaf. Yn gyntaf, gan fod cymaint o gemau wedi eu gohirio oherwydd y tywydd, penderfynwyd chwarae “gêm ddwbwl” yn erbyn Llandudno, y tîm sy’n ddiguro ar frig Adran 1, gyda’r canlyniad yn cyfrif tuag at y Gynghrair ac hefyd fel gêm yr wyth olaf yng Nghwpan Gogledd Cymru. Profodd yr ymwelwyr yn llawer rhy gryf ac ennill o 50-13, gyda James Rowse yn sgorio unig gais Dinbych a Garin Roberts yn ychwanegu wyth pwynt gyda’i gicio. Bu’n rhaid teithio i Bant Carw am eu gêm nesaf ar y prynhawn cyn y gêm fawr rhwng Lloegr a Chymru. Y gwrthwynebwyr, wrth gwrs, oedd tîm profiadol Nant Conwy a gariodd y dydd o 50-5, gyda Harry Collins yn croesi i roi Dinbych ar y blaen am ychydig funudau yn yr hanner cyntaf!
Ar yr un prynhawn, Tîm Cyntaf Caergybi, sydd yn ail yn Adran 3, wedi colli un gêm yn unig, oedd gwrthwynebwyr yr Ail Dîm ar Gaeau Les Phillips. Yr ymwelwyr aeth â hi o 50-10, gyda chais yr un i Tom Jones (mab Hayley, nid y canwr!) a Gethin Higginson i Ddinbych. Er fod yn canlyniadu hyn yn siomedig, rhaid fod yn positif a nodi mai Clwb Rygbi Dinbych oedd yr unig glwb yng Ngogledd Cymru i droi allan dau dîm ar brynhawn y gêm fawr yn “HQ”!
Bu’r timau Iau yn chwarae cyfres o gemau yn erbyn Bae Colwyn. Gêm gyfartal 14-14 gafodd y Dan 11, enillodd y Dan 13 o 41-27 a’r Dan 15 o 33-15, ond colli wnaeth y Dan 14 o 29-12.
Derbyniodd y Tîm Cyntaf wahoddiad i chwarae Jersey Royals ym mis Ebrill. Dyma i bob pwrpas Ail Dîm y Jersey Reds sydd yn chwarae ym Mhencampwriaeth Lloegr. Mae Jersey wedi cynnig cyfraniad at y costau teithio a’r bwriad oedd cynnal gweithgareddau i godi arian i leihau'r costau i'r rhai oedd am deithio. Yn anffodus, oherwydd y gwaharddiadau yn sgîl yr afiechyd Coronafeirws, ni fydd hyn yn bosibl eleni.
Roedd y Clwb wedi ymateb yn gadarnhaol i gais hwyr gan Urdd Gobaith Cymru i fodd yn gyfrifol am y maes parcio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i’w gynnal ar gaeau Fferm Kilford mis Mai. Mae rhai o’n darllenwyr fu’n gwirfoddoli yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2001 yn siwr o gofio’r achlysur hwnnw’n dda. Roedd yn waith caled, ond cawsom hwyl a sbri! Ond, fel y gwyddoch, rhoddodd yr hen Goronafeirws stop ar hynny, am 2020 o leiaf.
*****************
Yn olaf, ond unwaith eto yn ymwneud â’r Coronafeirws, penderfynwyd, yn dilyn cyngor gan Undeb Rygbi Cymru, i gau’r Clwb i lawr am gyfnod amhenodol. Mae hyn yn golygu nid yn unig rygbi, ond unrhyw weithgareddau cymunedol.
Wrth i'r rhifyn hwn fynd i'r wasg (neu'r wefan!) daeth datganiad gan Dr M W Davies ar ran Meddygon Teulu De Sir Ddinbych. Roedd yn datgan ei ddiolch i'r Clwb am roi caniatâd i'r safle gael ei ddefnyddio fel Canolfan Asesu Twymyn yn ystod yr argyfwng presennol.
John Davies
