Y Bigwn

Cymdeithas Edward LlwydY Barcut Coch.
 

Wel, mi oedd bach o grafu pen y tro yma, roedd gen i bethau i ddweud ond angen llun i fynd efo’r erthygl. Fel mae'n digwydd yn aml ddoth y syniad pan o’n i’n mwynhau paned o goffi a darllen erthygl am sut i dynnu lluniau o adar yn hedfan. Dydw i ddim wedi gwneud llawer o hynny o’r blaen, wedi bod yn ddigon hapus i dynnu lluniau o’r tirlun. Mi wnes i dreulio gweddill y diwrnod yn astudio a gosod y camera yn iawn. Roedd y diwrnod wedyn yn mynd i fod yn sych a phenderfynais fynd i Landdeusant ble maen nhw yn bwydo’r barcut coch. Yn union yn ôl fy arfer ro’n i’n rhy gynnar ond treuliais dri chwarter awr yn mwynhau tawelwch yr ardal.

Doth yr amser a rhois dair punt am fy lle yn y guddfan a gwneud yn siŵr unwaith eto bod y camera wedi cael ei osod yn iawn. Roedd y barcutiaid yn uchel yn yr awyr a’r brain yn eistedd yn y coed, maen nhw i gyd yn gwybod pryd mae amser cinio. Mi wnaeth pethau ddigwydd yn gyflym unwaith ddoth y dyn efo’i bwced o gig, yn sydyn roedd cwmwl ffyrnig o farcutiaid yn ymladd am y bwyd ac yn troi yma ac acw i osgoi ei gilydd, doedd dim un damwain! Cymerodd dipyn o amser i mi ddod i arfer â dilyn aderyn yn hedfan mor gyflym, a phob eiliad ro’n i’n pwyso’r botwm roedd deg llun yn cael eu tynnu. Erbyn y diwedd roedd 368 o luniau ar y cerdyn, rhan fwyaf roeddwn i’n gallu taflu a dwsin i gadw. Dyma oedd y gorau. Popeth drosodd mewn llai na hanner awr ond ces i hwyl.Wel, mi oedd bach o grafu pen y tro yma, roedd gen i bethau i ddweud ond angen llun i fynd efo’r erthygl. Fel mae'n digwydd yn aml ddoth y syniad pan o’n i’n mwynhau paned o goffi a darllen erthygl am sut i dynnu lluniau o adar yn hedfan. Dydw i ddim wedi gwneud llawer o hynny o’r blaen, wedi bod yn ddigon hapus i dynnu lluniau o’r tirlun. Mi wnes i dreulio gweddill y diwrnod yn astudio a gosod y camera yn iawn. Roedd y diwrnod wedyn yn mynd i fod yn sych a phenderfynais fynd i Landdeusant ble maen nhw yn bwydo’r barcut coch. Yn union yn ôl fy arfer ro’n i’n rhy gynnar ond treuliais dri chwarter awr yn mwynhau tawelwch yr ardal.

Yma yng Nghymru roedd yr ymdrech cyntaf i achub y barcut, yn y 1930au dim ond 20 ohonyn nhw oedd ar ôl ond gyda dyfalbarhad maen nhw dros Gymru i gyd erbyn hyn. Mae rhai o’n hadar ni wedi cael e allforio i Iwerddon felly allech chi weld barcutiaid yn ardal mynyddoedd Wicklow.

Os oes gennych chi siawns i weld y barcutiaid yn cael eu bwydo peidiwch â cholli’r cyfle ond ar eich tro cyntaf peidiwch â mynd â’ch camera, Mwynhewch gyda’ch llygaid!

Dewch efo ni i fwynhau ein cefn gwlad, edrychwch ar ein gwefan cymdeithasedwardllwyd.cymru i weld os ydan ni’n cerdded yn eich ardal yr wythnos yma. Bydd croeso mawr i chi!

Rob Evans