Wythnos Cymorth Cristnogol
10 – 16 Mai 2020
Prin fod diwrnod yn mynd heibio nad ydyw effeithiau’r argyfwng hinsawdd yn cael sylw ar y newyddion. Yma yng Nghymru, rydym wedi wynebu stormydd cryf, gyda llifogydd difrifol yn achosi difrod mawr i gartrefi a busnesau.

Mewn gwlad fel Kenya, fodd bynnag, sychder yw’r broblem fawr, gyda phobl yn gorfod cerdded milltiroedd i chwilio am ddŵr fydd yn eu galluogi i dyfu cnydau i fwydo eu hunain.
Mae Wythnos Cymorth Cristnogol eleni yn canolbwyntio ar effaith yr argyfwng hinsawdd ar Kenya a’i phobl. Mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru, bydd eglwysi a chapeli’n cynnal digwyddiadau o wahanol fath i godi arian, gweddïo ac ymgyrchu ar y mater tyngedfennol hwn.
Cawn glywed hanes Rose, sy’n wraig 67 oed ac yn gofalu am ei wyrion. Mae’n gorfod cerdded chwe awr pob dydd i gasglu dŵr. Hebddo, ni all dyfu cnydau a pharatoi bwyd maethlon i’w theulu. Meddai, ‘Mae’r sychder wedi bod yn ddifrifol. Rydym wedi cael tri mis hir heb law. Rydym yn dioddef.’

Clywn hefyd gan Florence. Arferai hithau gerdded pellter maith ond ers i’w chymuned godi argae pridd yn ymyl ei phentref gyda help gan bartner Cymorth Cristnogol, mae ei bywyd hi a’i chymdogion wedi ei drawsnewid. Mae’r sychder lawn mor ddrwg, ond gyda’r argae mae posibl cronni dŵr ar yfer y tymor sych.
Mae Wythnos Cymorth Cristnogol yn gyfle i godi arian i helpu mwy o gymunedau tebyg i un Florence – cymunedau sydd ar linell flaen yr ymdrech yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.
Bydd siŵr o fod digwyddiadau yn ystod yr Wythnos yn eich ardal. Beth am chwilio amdanynt a chefnogi? Dyma gyfle arbennig i wneud rhywbeth dros y tlotaf yn ein byd - y bobl sy wedi cyfrannu lleiaf tuag at yr argyfwng, ond sydd er hynny’n gorfod wynebu’r effaith mwyaf.
(Derbynwyd yr erthygl hon cyn cyhoeddi cyfyngiadau CoronaFeirws - Gol)
