Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd Umbria yng Nghanolbarth Yr Eidal yn gynnar eleni. Dim yn unig mae’r awyr yn las a digwmwl, yr haul yn tywynnu a’r tymheredd yn crafu i 20 gradd, ond wrth edrych allan o’r teras tuag at fynydd Subasio sy’n ysgwyddo Assisi, dwi’n gallu gweld llinellau igam-ogam gwyn yn ymestyn i’r awyr. Ydi, maent yn tocio’r miloedd o goed olewydd ac yn llosgi’r canghennau.
Mae gwanwyn y byd moduro wedi cyrraedd hefyd. Ond yn wahanol i ffermwyr Umbria sy’n cael gwared â’r hen i adael i’r newydd ffynnu, brwydr agored rhwng dwy genhedlaeth sy’n digwydd ar ddwy a phedair olwyn. Cymerwch y tîm mwyaf enwog – Ferrari. Yma mae’r Almaenwr Sebastian Vettel, pedair gwaith pencampwr y byd, yn erbyn Charles Leclerc, dwy ar hugain oed o Monaco sydd yn cychwyn ei drydydd tymor yn fformiwla 1. Aeth pethau braidd yn fler a chas rhyngddynt ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf ac fe fydd yn ddiddorol gwybod pwy fydd yn rhagori eleni: balchder a phrofiad yr hen bencampwr neu gyflymder ac uchelgais yr heriwr? Yr olaf dwi’n gobeithio!
Mae’r sefyllfa ar ddwy olwyn yn reit debyg hefyd. Yma mae’r Eidalwr Valentino Rossi, deugain oed, naw gwaith pencampwr y byd ac un o raswyr motorbeics gorau erioed, yn erbyn Fabio Quartararo, Ffrancwr o dras Eidalaidd, sy’n hanner ei oed – y ddau ar Yamaha. Pwy geith y gorau yma? Dwi’n gefnogwr o Rossi ers i mi ddod i’r Eidal, felly yn gobeithio yn fawr y bydd yn ennill un bencampwriaeth arall cyn ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn, ond yn ofni na fel arall y bydd pethau yn troi allan.
Mae rasio ceir yn rhedeg yng ngwaed yr Eidalwyr. Mae Ferrari bron yn gymaint o grefydd yma â Christnogaeth, ac yn ddieithriad mae yna sgwrsio llawn angerdd yn digwydd dros espresso ar ôl pob Grand Prix siomedig i Ferrari. Dwi’n hanner meddwl mai coch ydi lliw ein gwaed oherwydd bod Duw yn bwriadu i ni i gyd fod yn gefnogwyr Ferrari! Hwyrach eleni y dylem ni’r Cymry fod yn fwy tebyg i’r Eidalwyr. Deugain mlynedd yn ôl, roedd disgybl o Ysgol Frongoch, Tom Pryce, yn un o yrrwyr ceir Fformiwla 1 gorau’r byd. Heddiw mae Elfyn Evans yn ei ddilyn mewn ralio. Dim yn unig ei fod ar frig y bencampwriaeth, ond i wneud hynny mae wedi curo Sebastain Ogier, Ffrancwr sydd wedi ennill chwe pencampwriaeth y byd, yn yr un Toyota Yaris. Gobeithio y bydd yr ifanc yn trechu’r hen yma hefyd. Yn sicr fe fyddai yn dda i bawb ohonom anghofio’r rygbi am unwaith a dechrau cefnogi Elfyn.
Dewi Rogers
