Mae cymdeithas dai flaengar sy’n buddsoddi mewn hyfforddi a datblygu staff yn rhoi hwb i wasanaethau ar gyfer eu tenantiaid.
Mae Grŵp Cynefin, sydd wedi derbyn achrediad arian gan Fuddsoddwyr Mewn Pobl, wedi gweithredu nifer o argymhellion a wnaed gan arolygwyr yn ystod ei asesiad cyntaf yn 2016.
Mae'r gymdeithas dai wedi rhoi 24 o'i huwch reolwyr a’i tîm trwy hyfforddiant arweinwyr dros y 12 mis diwethaf, gyda phob aelod o'r gweithlu wedi cael cyfleoedd i uwchsgilio a thraws-sgilio.
Hefyd, rhoddwyd 25 o'r gweithwyr trwy raglen arbennig (Lean Six Sigma) er mwyn adnabod lle gall y sefydliad gael mwy o werth am arian a gwneud prosesau'n fwy effeithiol.
Yn ogystal, mae Grŵp Cynefin, sy'n rheoli 4,000 o gartrefi ledled Gogledd Cymru a Gogledd Powys, wedi gosod fframweithiau ymddygiad i helpu meincnodi a mesur ymddygiad allweddol gan gynnwys lleihau gwastraff a sicrhau gwasanaeth rhagorol i’w cwsmeriaid.
Dywedodd rheolwr adnoddau dynol Grŵp Cynefin, Gwenda Squire: “Mae derbyn y wobr arian gan Buddsoddwyr mewn Pobl yn wych, ac yn arwydd clir ein bod yn cefnogi ein staff.
“Mae’r gwaith yma’n ein cynorthwyo i wasanaethu ein tenantiaid yn well. Er enghraifft, mae'r rhaglen Lean Six Sigma wedi caniatáu i aelodau staff ddarparu adborth trawsadrannol gyda golwg ffres i'n helpu i weithio'n ddoethach ac arbed amser ac arian.
“Rydym yn gallu defnyddio'r amser ychwanegol i nodi ffyrdd y gallwn wella profiadau tenantiaid.”
Wedi ei ffurfio ym 1991 fel prosiect Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn sefydliad dielw sy'n canolbwyntio ar wella safonau a chynhyrchedd mewn gweithleoedd ledled y wlad er budd staff.
Gwnaethpwyd nifer o awgrymiadau gan yr aseswr ar ei ymweliad cyntaf â Grŵp Cynefin, gan gynnwys datblygu sgiliau arwain ymhellach a rhoi cynllun gweithredu ar waith.
Yn ôl Bryn Ellis, cyfarwyddwr gwasanaethau busnes Grŵp Cynefin: “Mae wastad yn ymwneud â pherchnogaeth. Rydym wedi grymuso'r staff i wneud penderfyniadau a’i cynnwys hefyd yn y broses benderfyniadau, fel y gwnaethom gyda’r cynllun corfforaethol a chynnal sesiynau grŵp gyda’r prif weithredwr.
“Mae hefyd o gymorth i gadw a recriwtio staff ac mae’n dangos ein hymrwymiad a'n hangerdd i ddatblygu pobl.”
Yn ôl Buddsoddwyr mewn Pobl, dim ond 15 y cant o sefydliadau sy'n cyflawni'r achrediad arian.
Dywedodd Shan Lloyd Williams, prif weithredwr Grŵp Cynefin, fod y gydnabyddiaeth yn adlewyrchu datblygiad y sefydliad dros y pedair blynedd ddiwethaf.
