Y Bigwn

rth i fwgan Coronafeirws hofran uwch ein pennau, bu’n rhaid gohirio sawl digwyddiad yn ystod mis Mawrth, gan gynnwys Swper Gŵyl Ddewi ar Fawrth 16eg.

Gyda’r Bigwn ar fin mynd i’w wely nid oes wybod  pa effaith ymhellach a gaiff hyn ar weithgareddau’r eglwys.

Mr Dilwyn Jones oedd y cennad ar y Sul olaf o Chwefror, a chroesawyd ef gan Mr Gwilym Luke Jones, llywydd y mis. Mrs Catrin Warren oedd yn cyfeilio.

Yn anffodus, oherwydd anhwylder, ni fu modd i’r Parch. Dafydd Rees Roberts, Llandudno,  fod gyda ni ar Fawrth 8fed.

Yn hytrach cyflwynwyd gan y blaenoriaid ddetholiad o wasanaeth a baratowyd gan ferched Zimbabwe ar gyfer Dydd Gweddi Chwiorydd Y Byd.

Cymerwyd rhan gan Mr Gwilym Luke Jones, llywydd y mis, Mr Stan Lyall, Mrs Angharad Rhys a Mrs Cheryl Williams. Mrs Dorothy Rogers oedd yn cyfeilio a Mr Ifor John Jones oedd yn codi canu.

Hyfryd oedd cael cwmni’r Parch. Trefor Lewis, Bae Colwyn, ar nos Sul, Mawrth 15fed, ar gyfer yr oedfa hwyrol gyntaf eleni yn y capel.

Croesawyd ef gan Mr Gwilym Luke Jones. Mrs Catrin Warren oedd yn cyfeilio.