Dydd Sul, Chwefror 23ain agorwyd yr Ysgol Sul gan Elin Jones, Magi a Gwen.
Pregethwyd y prynhawn gan Dilwyn Jones. Carolyn Thomas oedd yr organyddes.
Diolchwyd i Mari Gibson am ei chyfraniad o nwyddau at ddefnydd plant yr Ysgol Sul.
Dydd Gŵyl Dewi bu gwasanaeth dathlu eglwysi’r dref yng Nghapel y Fron dan ofal y Parch. Andras Iago. Bu i Cari a George Cattell ddarllen emyn ar ran y Brwcws.
Dydd Gwener, Mawrth 6ed cynhaliwyd gwasanaeth Dydd Gweddi’r Byd yng Nghapel Pendref. Lis Edwards a Carolyn Thomas fu yn cynrychioli’r Brwcws.
Bore Sul, Mawrth 8ed Rhian Cattell a Cari fu yn gyfrifol am agor yr Ysgol Sul. Bu’r plant yn brysur yn paratoi at arddangosfa’r Pasg. Llongyfarchwyd pawb fu yn cymryd rhan yn Eisteddfod Cylch yr Urdd..
Dennis Davies fu yn pregethu yn oedfa’r prynhawn. Carolyn Thomas oedd wrth yr organ.
Cydymdeimlwyd a Mrs Myfanwy Jones, Dolawel yn dilyn marwolaeth ei chwaer Mrs Janet Hughes.
Anfonwn ein dymuniadau gorau i Gwilym Williams wrth ddathlu penblwydd arbennig.
Dydd Sadwrn, Mawrth 14eg aeth y plant ar eu trip Ysgol Sul i S2 Y Rhyl. (Hanes a llun yn dod ar wahan)
Dydd Sul, Mawrth 15ed Gwilym Williams agorodd yr Ysgol Sul.
Croesawyd y Parch. Trefor Lewis i oedfa’r prynhawn. Eleanor Roberts oedd yr organyddes.
Oherwydd amgylchiadau y Coronafeirws ni fyddwn yn cyfarfod am amser. Dymuniadau gorau i bawb.
Trip i SC2, Y Rhyl

Ar ddydd Sadwrn, 14eg o Fawrth 2020; aethom ni (Ysgol Sul y Brwcws) i SC2. Parc ddŵr yn Rhyl yw SC2 yn llawn sleidiau mawr a bach, yn hwyliog i plant mawr a bach (a mamau a tadau!). Fe gawsom llawer o hwyl yno yn rasio lawr y sleidiau brawychus a tollti dŵr ar ein gilydd. Yn fy marn i, y sleid orau oedd y sleid ‘Boomerang’, sef sleid mawr rydych yn mynd i lawr mewn cylch rwber, a dal arnodd am eich bywyd! Jyst pan ‘da chi’n meddwl bod chi wedi cyrraedd y gwaelod ‘da chi’n mynd i fyny eto ar yr ochr arall! Am eiliad roeddech chi’n teimlo fel bod chi’n hedfan, roedd yr adrenalin yn pwmpio! Es i lawr o o leiaf 10 gwaith!
Roedd yna sleid arall tywyll oedd yn andros o hwyl, yn rhedeg tu allan i’r adeilad ac yn gyflym iawn. Yn y diwedd roeddech chi’n dod allan o geg y neidr!
Gwnaethom fwynhau yn fawr iawn ac rwy’n siŵr fyddai pawb yn hoffi mynd eto rhywbryd.
Cari
