Y Bigwn

logo 2 wish upon a star

Mae 2 Wish Upon a Star yn cefnogi teuluoedd, unigolion, tystion a gweithwyr proffesiynol sydd wedi eu heffeithio gan farwolaeth sydyn plentyn neu oedolyn ifanc 25 oed neu’n iau.
Mae gennym nawr 2 aelod o staff yn gweithio yng Ngogledd Cymru sef Steph Jones ac Ann Edwards ac mae’r ddwy yn siarad Cymraeg.

steph jones

Steph Jones – Cydlynydd Cefnogaeth ar Unwaith (Gogledd Cymru)

Rôl Steph ydi cynnig cefnogaeth ar unwaith yn dilyn marwolaeth sydyn ac annisgwyl plentyn neu berson ifanc oedd yn 25 oed neu’n iau.

Os ydy’r rhai a effeithiwyd yn rhoi eu caniatâd, bydd eu manylion yn cael eu pasio i 2 Wish Upon A Star ac, o fewn 48 awr, bydd Steph yn cysylltu â nhw. Gall wneud ymweliadau cartref, cefnogi dros y ffôn a chefnogi ar yr e-bost. Mae Steph yno i’w helpu i ddeall y broses swyddogol sy’n digwydd ar ôl i blentyn farw’n sydyn, i roi cefnogaeth emosiynol ac i’w helpu unrhyw ffordd y gallent yn yr wythnosau cyntaf yn dilyn marwolaeth.

Unwaith mae’r gefnogaeth gyntaf wedi dod i ben, ar ôl 6-8 wythnos fel arfer, bydd Steph yn cynnig eich trosglwyddo chi i dderbyn cefnogaeth hirdymor gan Ann, os ydych yn teimlo’n barod ac yn rhoi eich caniatâd. Os nad ydych yn barod, gallwn ohirio hyn nes byddwch yn rhoi gwybod i ni eich bod yn barod i’w derbyn. Does dim cyfyngiad amser ar y gefnogaeth hon, a gallwch ofyn amdani yn eich amser eich hun, i’ch cefnogi chi’n bersonol a’ch angen unigol chi.

 

Ann Edwards – Cydlynydd Cwnsela a Chymorth (Gogledd Cymru)

Rôl Ann ydi parhau i gefnogi’r teulu ar ôl iddynt dderbyn cefnogaeth gan Steph. Gellir hyn fod drwy nifer o wasanaethau sydd ar gael:

  • Cwnsela gyda chwnselydd lleol, cymwysedig, sy’n gofrestredig gyda BACP.
  • Therapi Cyflenwol - rydyn ni’n cynnig adweitheg a thylino aromatherapi.
  • Therapi Chwarae - chwarae yn addas i blant 4-12 oed. Mae pob un o’n Therapyddion Chwarae yn gofrestredig gyda BAPT neu PTUK.
  • Grwpiau Ffocws i’ch Cynorthwyo - mae’r ffocws ar siarad fel grŵp, rhannu, a helpu ei gilydd i brosesu a deall eu colled mewn amgylchedd diogel.
  • Penwythnosau Preswyl S.T.A.R. (Stand Together And Remember) - cyfle i deuluoedd gwrdd â theuluoedd eraill sydd mewn sefyllfa debyg iddyn nhw.
  • Digwyddiadau Cymorth bob Deufis - mae’r rhain wedi eu teilwra i famau, tadau, brodyr a chwiorydd a theuluoedd cyfan.
  • Cefnogaeth i Bobl Broffesiynol a Thystion - gallwn gynnig cwnsela cyfrinachol sy’n rhad ac am ddim, therapi cyflenwol a sesiynau adrodd yn ôl sy’n cyd-fynd â’ch ymrwymiadau gwaith a’ch bywyd dyddiol.
  •  

‘Rydym hefyd yn rhoi cymorth i atgyfeiriadau hanesyddol gan rieni ac aelodau eraill o'r teulu yr effeithiwyd arnynt gan y golled sydyn o blentyn neu oedolyn ifanc 25 oed ac iau nad ydynt wedi marw'n ddiweddar.

Os ydych chi’n teimlo y byddech chi’n hoffi rhagor o gefnogaeth neu wybodaeth am y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig, ffoniwch 01443 853125 opsiwn 1 neu anfonwch e-bost i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.