Ychydig a feddyliom wrth adael Capel Brwcws pnawn Sul, Mawrth 15ed, na fuasem yn cyfarfod yno eto am fisoedd lawer oherwydd aflwydd y Coronafirws. ‘Rydym wedi colli cymaint heblaw am wasanaethau’r Sul, Gŵyl Flodau’r Pasg, trip y Chwiorydd a Eisteddfod yr Urdd.
Does neb yn gwybod pa bryd y cawn ail afael ym mhethau ond tan hynny cadwch yn saff.
‘Rydym yn ddiolchgar iawn i Andras a Heledd Iago am ein cadw mewn cysylltiad ar
You Tube a Zoom. I’r rhai ohonom sydd heb y dechnoleg newydd, nac yn ei ddeall, mae Andras yn garedig iawn yn anfon gwasanaethau ar bapur. Diolch yn fawr i Carolyn am eu dosbarthu.
Dymuniadau gorau i Brian Thomas ar ddathlu penblwydd arbennig yn ddiweddar.
Llongyfarchiadau i Mrs Myfanwy Jones, Dolawel ar ddod yn hen nain unwaith eto - y tro yma i Nola Tesni.
Bellach mae Morgan a Martha Cordiner wedi cwblhau eu cyfnod ym Mhrifysgol Bangor. Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i’r ddau i’r dyfodol. Mae Morgan wedi cael swydd athro yn Ysgol Godre’r Berwyn, Y Bala tra bydd Martha yn athrawes yn Ysgol Croes Atti, Y Fflint.
Llawenydd mawr i bawb ohonom oedd clywed fod Brychan, ŵyr Lis a Gwilym Edwards, wedi gwella ar ôl cyfnod pryderus yn Ysbyty Glan Clwyd.
