Y Bigwn

Mae mis arall wedi llithro heibio, neu efallai fod llusgo’n air gwell, a’r drefn yn parhau’n hollol wahanol i’n arferion a’n traddodiadau fel Anghydffurfwyr.  Fe’n hatgoffwyd, er enghraifft, gan y Parch Graham Floyd yn ei neges wythnosol, mai Lôn Swan oedd i fod i groesawu a chynnal Cymanfa Ganu Cyfundeb Gorllewin Dinbych a Fflint eleni, dan arweiniad Dr Philip Jonathan, Rhuthun.  Am resymau amlwg, ni fu’n bosibl ei gynnal.

Er hynny, mae’r rhai ohonom sy’n dilyn yr Oedfaon Digidol sydd i’w gweld bob bore Sul am 10.30 (ac ar ôl hynny) ar wefan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn cael cyfle i weld a gwrando ar unigolion o bob cwr o Gymru na fyddem fel arfer yn cael y cyfle i’w gweld.  Yn ystod y mis diwethaf cawsom Gwyn Elfyn o Bontyberem yn trafod y thema Dyrchafael, sef deugain niwrnod ers y Pasg.  Ar Sul y Pentecost cawsom gwmni Mererid Mair Williams, cyd-weinidog Capel Salem, Caernarfon, ac roedd o leiaf un o’n haelodau wrth ei fodd yn clywed Cofis bach yr Ysgol Sul yn cymryd rhan.  Bu Robat Powell, arweinydd Capel y Nant, Clydach yn ein harwain ar Sul yr Amgylchedd, gyda Iwan Llewelyn Jones, Borth-y-gest yn dilyn, yn trafod neges gyfoes Gwledd Balthasar.  Yn fwy lleol, bu Rhodri Glyn, Gweinidog Gofalaeth Gyd-enwadol Bro Aled, yn ein harwain gyda chymorth Mair Owen ac Ifor Evans.

Mae’n siwr fod pob un ohonom wedi ein brawychu a’n sobri gan y golygfeydd erchyll sydd wedi ein cyrraedd o’r Unol Daleithiau yn ddiweddar, ac mae’r mudiad “Black Lives Matter” wedi codi ymwybyddiaeth pawb o’r rhaniadau o fewn cymdeithas ledled y byd, gan gynnwys yma yng Nghymru.  O ganlyniad, ysgrifennodd Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y Parchg Jill-Hailey Harries, lythyr at Lysgennad yr Unol Daleithiau ym Mhrydain yn mynegi sioc ynglŷn â beth sy’n digwydd yn y wlad honno ac arswyd o weld ymateb yr Arlywydd Trump, yn enwedig ei ymddygiad heriol ac ymfflamychol yn chwifio Beibl y tu allan i eglwys Sant Ioan yn Washington DC.  Pwy all anghytuno â’r sylwadau hyn? 

Rydym ni yma yn Lôn Swan yn ymfalchïo yn y ffaith fod un o’n cyn-weinidogion wedi chwarae rhan mor flaenllaw yn y frwydr i ddiddymu caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau yn y 19eg Ganrif.  Fe gyhoeddwyd erthygl amdano yn Y Bigwn mis Gorffennaf 2004, ac un arall ym mis Mai 2008 pan ddadorchuddiwyd cofeb ar furiau’r Capel yn anhrydeddu’r Parch Robert Everett.  Efallai fod rwan yn amser priodol i ail-ddarllen yr ail erthygl.

Mae cyfnod o ansicrwydd yn ein hwynebu o hyd, a phwy â wyr beth fydd y sefyllfa yn ein capeli ac yn y gymdeithas drwyddi draw pan fydd rhifyn nesa’r Bigwn yn ymddangos, dwi’n mawr obeithio, ym mis Hydref?  Amser a ddengys.  Yn y cyfamser, dymunwn pob bendith i bawb.


Yn olaf, hoffwn ddiolch i un o aelodau ffyddlon y Capel, Mr Maldwyn Jones, am roi caniatâd i ni gyhoeddi ei benillion hynod amserol isod.

 

Hiraethu

Cofiwn heddiw yn hiraethus

Am y dyddiau difyr gynt,

Pan yr oeddem fel un teulu

Yn cyd addoli ar ein hynt.

 

Er fod gofid yn ein calon,

Wedi colli hyn dros dro.

Gwyddom y dychwela`r heulwen

Eto i wenu yn ei thro.

 

Er mae mud yw sŵn y canu

Yn ein haddoldai nawr

Mae y gân o fewn y galon

Yn adsain clod i’r Brenin Mawr.

 

Mae y drefn mewn dwylo diogel.

Hyn a wyddom oll rwy`n siŵr.

Llawenhawn fod ein dyfodol

Yn llaw Duw, y cyfiawn ŵr.