Er i ni fod hanner ffordd drwy’r flwyddyn yn unig, mae’n eitha sicr fydd 2020 yn cael ei chofio fel “Blwyddyn y Pla” neu rywbeth tebyg, gyda haneswyr y dyfodol yn darllen dyddiaduron rhai fel Stan Lyall, Alys Wyn Jones a Gerran Thomas gyda diddordeb i gael blas o’r cyfnod drwy lygaid yr ifanc – ac eraill!
Ond mae hi wedi bod yn flwyddyn eithriadol am resymau eraill hefyd, yn enwedig y tywydd eithafol. Ydach chi’n cofio’r llifogydd mawr yn dilyn Stormydd Ciara, Dennis a Jorge yn creu difrod ledled y wlad? Chwefror 2020 fu'r Chwefror gwlypaf ar gofnod ar gyfer y DU, Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Wedyn, wrth i’r cyfyngiadau ddod i rym (neu’r “Caethiwo” chwedl awgrym Eifion Lloyd Jones i BBC Cymru Fyw) cawsom Wanwyn bendigedig, gyda mis Mai yn troi allan i fod y mis calendr mwyaf heulog ers cadw cofnodion o’r tywydd, gyda 266 awr o heulwen, gan guro'r record flaenorol o 265 awr ym mis Mehefin 1957.
Wrth i mi sgwennu hwn mae rhannau o’r Rhondda ac ardal Wrecsam wedi eu heffeithio unwaith yn rhagor gan lifogydd yn dilyn glaw trwm. Beth sydd yn ein wynebu gweddill y flwyddyn ‘sgwn i?
Ond pwy sy’n cofio’r tywydd ddeng mlynedd yn ôl? Roedd mis Ionawr yn eithriadol o oer, gyda rhannau helaeth o’r wlad, gan gynnwys Dinbych, yn cael eu gorchuddio gan haen drwchus o eira.
Aethon ni allan am dro un diwrnod yn dilyn yr eira mawr a thynnu ychydig o luniau, nid pob un ohonyn nhw dan do, yn dangos Dinbych ar wedd wahanol. Beth am geisio dyfalu ble dynnwyd y lluniau – rhai yn llawer haws na’i gilydd? Cewch yr atebion yn y rhifyn nesaf. Yn anffodus, does dim gwobr ar gael gan fod rhai o ddarllenwyr Y Bigwn eisoes wedi gweld y lluniau mewn cyd-destun arall!
John Davies










