Y Bigwn

Fe dderbyniodd Y Bigwn emyn newydd sbon yn y dyddiau diwethaf, wedi ei ysbrydoli gan gyfnod ansicr a phryderus y Coronafeirws.  Dewi Williams o Lannefydd ydy’r emynydd, ac mae’n awyddus iawn i rannu’r emyn gydag eraill, yn cynnwys darllenwyr Y Bigwn.  Efallai fod rhai ohonoch yn ei adnabod o’i ymweliadau â chapeli Dinbych fel pregethwr cynorthwyol o dro i dro.

Yn ôl Dewi, “Er mod i'n sgwennu ambell i limrig go wirion ac ambell i englyn cyfarch weithiau, wnes i erioed feddwl gwneud emyn. Tua diwedd mis Mawrth dechra dwdlo efo beiro a phapur wrth yfed paned rhyw bnawn a meddwl am ysgolion 'di cau, nyrsus yn gweithio'n galed ac ymroddedig ddewr a llawer iawn iawn o bobol methu gweld perthnasau a chyfeillion, yna trio rhyw fath o bennill (8,7,8,7) o delyneg neu benillion syml.”  Ymhen hir a hwyr, ac yn dilyn awgrym gan ei wraig, Mair, byddai mwy o ddewis tonau ar gyfer penillion wyth llinell, cafwyd yr emyn isod.   Mae Mair yn ei gweld yn addas ar y don 'Prysgol' gyda llaw.

“Wrth edrych yn ol,” meddai, “mae rhannu'r emyn yn rhoi cyfle i gysylltu ag aelodau y capeli dwi'n arfer pregethu ynddyn nhw. Dwi'n meddwl ‘mod i yn colli hynny llawer mwy nag oeddwn i wedi dybio ar y dechra.”


Emyn i Bawb

Beth yw’r aflwydd anweledig

Sydd yn herio pawb i gyd

Gan gyfyngu gweithgareddau

Angenrheidiol yr holl fyd?

Ymddiriedwn yn yr Iesu,

Gyda’i allu ym mhob man;

Ef yw’r Arglwydd atgyfododd,

Sydd ar gael i’r tlawd a’r gwan.

 

Ysbryd y Gwirionedd oesol

Ddeil i eiriol drosom ‘nawr

Er mwyn uno’r byd dan fendith

Iesu’n maddau’n beiau mawr.

Duw o’i ras sydd yma’n rhoddi

O’i gymeriad Ef yn llawn

Gariad perffaith byth na dderfydd

I’n hiachau ni oll yn iawn.

 

Cysur gobaith sy’n y canol

Gyda Christ a’r Tad ei Hun;

Mae y Drindod lawer cryfach

Na’r un haint wyneba dyn.

Diolch am rhyw awydd newydd

I ymateb iddo’n well,

Dilyn Crist i garu eraill,

Boed nhw’n agos neu ymhell.

 

Awdur heddwch, grym maddeuant,

Fe ddaw’r sylwedd pur o’r Nef;

Gwelir yma hanfod cariad

Drwy ei gyffyrddiadau Ef.

Saif ei Deyrnas eto’n gadarn

Wrth gyfarfod ‘gylch y bwrdd

Rhaid yn gyson ddal mewn gweddi;

Iesu’n Ceidwad ddaw i’n cwrdd.

DW