Cyhoeddwyd yr erthyglau canlynol yn Llanw Llŷn a chafwyd caniatâd yr awdur i’w hatgynhyrchu yn Y Bigwn. Diolch i Ber am drefnu.
Tatŵ
Mi gefais gryn dipyn o sioc o weld fy nghyfaill, Robat, yn sefyll yn y fferyllfa un bore gwlyb ym mis Mawrth yn yr wythdegau, gan ein bod wedi ffarwelio tua thair wythnos ynghynt am ei fod yn cychwyn ar fordaith i Affrica a' r Dwyrain Pell. Ro'n i'n genfigennus o'n ffrindiau oedd wedi dewis mynd i'r môr a finnau wedi fy ngharcharu rhwng pedair wal llawn cyffuriau am weddill fy ngyrfa!
Wedi cael ei hel adra oedd Robat! Roedd ganddo friw cas ar ei fraich, a doedd Y Capten ddim yn fodlon iddo hwylio i'r gwledydd trofannol poeth gyda ffasiwn ddolur agored. Hegar oedd o hefyd: briw cignoeth gwlyb a'r croen i'w weld yn ddu ac wedi llosgi. Ac wedyn dyma gael yr hanes:
Roedd Robat wedi bod yn canlyn yn selog a merch o'r Alban ers tua thair blynedd ac wedi cael tatŵ o'i henw mewn calon ar ei fraich yn gynnar yn y berthynas. Pan oedd ar fin gadael Lerpwl ar gychwyn y fordaith, mi gafodd lythyr 'Annwyl Ioan' ('Dear John' yntê!) ganddi yn darfod popeth! Yn dilyn cyfnod o dristwch, poen a thorcalon, erbyn cyrraedd Marseille roedd yr hen foi eisiau cael gwared ar bob arwydd o'r berthynas drychinebus. Yn ei ddicter a'i ddiod mi aeth i barlwr tatŵ yn y porthladd i ddileu ei henw am byth! Yn anffodus iddo fo, doedd 'na ddim sôn am 'laser' nac unrhyw reoliadau hylendid yr adeg honno, a'r dull o waredu'r tatŵ tramgwyddus oedd mynd drosto gyda phin ac asid (dw i'n swp sâl hyd yn oed heddiw wrth feddwl am ffasiwn greulondeb!). Dri diwrnod yn ddiweddarach roedd rhaid ceisio o ,barn feddygol am y briw oedd erbyn hynny’n heintiedig. Wel. mi gafodd y Capten glywed a gwrthod gadael iddo barhau i weithio ar y Llong, oedd yn benderfyniad call iawn o ystyried rhai o'r gwledydd oedd yn rhan o'r fordaith.
Erbyn heddiw, mae pethau wedi newid am y gorau, gyda phob person sydd am dreiddio'ch croen yn gorfod cofrestru gyda'r cyngor lleol cyn cael caniatâd i gychwyn busnes. Ond cofiwch chi does dim dianc rhag y ffaith mai tyllu trwy'r croen a rhoi inc yn y twll yw'r broses o greu tatŵ sy'n naturiol yn cyfaddawdu gallu' r croen i amddiffyn y corff rhag haint. Ar ôl cael tatŵ, mae'n naturiol i'r croen o'i gwmpas fod yn goch, yn boeth ac yn chwyddedig, ond os bydd hyn yn para mwy na thri diwrnod mi allai rhywbeth fod o'i le. Mewn achos o'r fath, dylech gysylltu â'r arlunydd yn gyntaf, ac yna, os bydd rhaid, â'r meddyg.
Mae hefyd yn werth cofio fod nodwyddau budron yn gallu trosglwyddo hepatitis, felly dewiswch yn ofalus; gofalwch fod tystysgrif yr arlunydd yn cael ei harddangos yn amlwg ar y wal, bod ganddo enw da am ei waith, a bod ei weithle yn lan.
Does fawr o sôn wedi bod am datŵs parhaol yn y tŷ yma, er i’r genod i gyd yn eu tro chwarae gyda rhai ffug. Roedd y wraig yn awyddus i gael tatŵ o enwau'r plant ar dop ei phen-ôl ychydig flynyddoedd yn ôl, ond pan awgrymais i fod digon o le yna i roi eu lluniau nhw a'u cyfeiriad, chlywais i ddim smic am y pwnc wedyn! Mi gymerodd hi tua phythefnos i mi fedru cerdded yn iawn yn dilyn hynny...!
Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Emyr Wynne Evans ar ran Fferyllwyr Llŷn.
Ymlacio
Yn dilyn misoedd oer, gwlyb a gwyntog y gaeaf, hyfryd yw cael croesawu'r ymwelwyr yn ô1 i'n mysg yma ym Mhen Llŷn yn y gwanwyn, ar drothwy cyfnod o well tywydd, dyddiau hirach a nosweithiau cynnes yn yr ardd. Ond erbyn diwedd mis Awst, dan ni wedi syrffedu'n llwyr arnyn nhw! Gorfod camu oddi ar y palmentydd i wneud lle iddyn nhw, gan fwmian "sori" heb fath o ddiolch yn byd! Dioddef y 4x4s yn gyrru ar hyd ein lonydd gwledig fel pe baen nhw ar yr M56! Methu siopa mewn llonydd yn ein harchfarchnadoedd ein hunain a pheidiwch a hyd yn oed sôn am y problemau parcio!
Mae ein tŷ ni ar Yr Ala, ac er mwyn dod allan i'r lôn fawr mae'n rhaid i ni aros i Samariad o yrrwr Cymreig ein chwifio ni i mewn, neu yno fyddem ni am oriau! Mae'r ymwelwyr yn hollbwysig i'n heconomi leol wrth gwrs, felly dw i'n deall mai ychydig wythnosau o anghyfleustra yw'r pris y mae'n rhaid i ni'r trigolion ei dalu er mwyn i'n hardal ffynnu ac er mwyn i'n pobl ifanc aros yma i ymgartrefu yn lle ymfudo i chwilio am well swyddi.
Felly, dros y cyfnod anodd yma, mae fy mhwysedd gwaed, fy mhoen meddwl a fy nhymer cyffredinol yn cael eu gwthio i'r eithaf, ac ymhellach weithiau pan mae deg modur yn olynol yn gwrthod gadael i mi ddod allan i'r lôn! Mi fydda i'n teimlo fy nghalon yn curo yn fy mhenglog a 'nghorff j gyd wedi'i weindio fel sbring! Ond mae sawl un yn byw felly yn ddyddiol (nid dros y gwyliau yn unig fel fi) - dan straen parhaol, yn gorfod ymdopi â thensiwn corfforol, pryderon di-baid a sefyllfaoedd anodd. O leiaf dw i'n cael mis i ddod ataf fy bun!
Dyma pam ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n gallu ymlacio - rhaid i ni geisio lleihau'r pwysau meddyliol yma sydd mor ddinistriol, ac a all ein harwain at lethr serth tuag at salwch a chyffuriau annymunol. Y mae yna lyfryn yma yn y fferyllfa sy'n rhoi cyngor ar sut i ymlacio a delio â'r gwahanol fathau o amgylchiadau sy'n
debygol o achosi straen a gofid i ni -mae o'n werth ei ddarllen. Mae'n rhoi gwybodaeth ar sut i ddelio a'r canlynol:
- Tensiwn Corfforol - gall hwn amlygu ei hun mewn sawl ffurf, gan gynnwys cur pen, poen a thensiwn yn y cyhyrau, curiad calon cyflym, chwysu a phoen bol. Mae gwneud rhyw fath o ymarfer corff yn rheolaidd yn un ffordd o helpu i leddfu hyn.
- Pryder - mae pryder yn emosiwn cyffredin, ond mae rhai'n poeni mwy nag eraill nes iddo ddatblygu'n broblem. Mae rhannu'ch pryderon â'ch ffrindiau, eich meddyg neu eich fferyllydd yn gwneud byd o les, nid yn unig am eich bod yn cyfaddef fod rhywbeth o'i le, ond hefyd am y gallai'r bobl hyn gynnig cyngor buddiol i chi.
- Sefyllfaoedd anodd - mae pawb yn cael cyfnodau da a chyfnodau gwael, ond ceisiwch eich argyhoeddi'ch hun bod mwy o ddyddiau da na drwg i ddod yn y dyfodol – amser yw'r meddyg gorau. Ceisiwch ddelio a phethau fesul cam.
.Fe ddylem ni roi amser o'r neilltu bob dydd i geisio ymlacio mewn rhyw ffordd, e.e. gwrando ar gerddoriaeth, myfyrio drwy anadlu'n araf a cheisio gwagio'ch meddwl neu wneud gweithgaredd sy'n canolbwyntio'ch meddwl yn llwyr fel nad oes yna le i'r hen bryderon 'na wthio i mewn am ychydig funudau o leiaf. Mi fydd hyn yn helpu i leihau tensiwn yn y cyhyrau.
Wrth gwrs, mae'r wraig wedi cymryd hyn yn llythrennol braidd, ac yn treulio ei dyddiau yn ymlacio' n llwyr - hynny yw, gwneud cyn lleied ag sy'n bosib. Ac ar ôl ugain mlynedd o ymarfer, mae hi bellach wedi perffeithio'r ddawn!
Cofiwch alw draw am sgwrs os ydych chi'n teimlo fod pethau'n mynd yn drech na chi - mae clust barod, cydymdeimlad a chyngor yn aros amdanoch chi bob amser. Ac erbyn i chi ddarllen y rhifyn yma o' r Llanw, ni yn unig fydd berchen ar ein hardal hyfryd unwaith eto - am ryw hyd o leiaf!
Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Emyr Wynne Evans ar ran Fferyllwyr Llŷn
