Y Bigwn

 

Testun Arall Delwedd 1

Neidr Siop y Parc

Y tro diwethaf i mi ysgrifennu Colofn y Golygydd oedd ar gyfer mis Ionawr 2020. Wedi siomedigaeth etholiad Rhagfyr roeddwn yn trïo bod yn gadarnhaol drwy ddefnyddio “hen ystrydebau fel ‘Daw eto haul ar fryn’ a ‘Daliwch i gredu’ neu ‘Gŵr dieithr yw yfory’” a wele ni chwe mis yn ddiweddarach! Dyna dro ar fyd a chwalwyd ein ffordd gyfarwydd o fyw yn llwyr.

Yn ystod Chwefror fe gawsom fynd ar wyliau i Vietnam a Cambodia i weld dwy wlad, dwy gymdeithas, dwy ffordd o fyw hollol wahanol i’r hyn a brofwyd gennym o’r blaen. Cawsom brofiadau bythgofiadwy; gweld golygfeydd godidog; profi bwydydd bendigedig; cyfarfod pobl hynaws dros ben a gweld dwy wlad a fu drwy erchyllterau mawr yn ystod ein hoes ni. Bellach mae’r ddwy wlad yn ffynnu ac yn dibynnu’n arw ar dwristiaid fel ni. Oherwydd hynny cawsom bob gofal ganddynt tra buom yno. Roedd yn rhaid golchi dwylo cyn mynd ar fysus, mynd i mewn i westai a bwytai, gwisgo masgiau mewn rhai adeiladau, cymryd ein tymheredd wrth fynd i mewn i atyniadau ac roedd hyn yn hollol dderbyniol gan bawb, ymwelwyr a brodorion. Roedd confoi ag uchelseinydd yn mynd o gwmpas Hanoi yn rhybuddio’r trigolion am y peryglon hyd yn oed. Roedd y Cofid yn fygythiad o dros y ffîn yn China ac roedd y ddwy wlad wedi gwahardd teithwyr o’r wlad honno. Canlyniad hyn i gyd oedd 349 o achosion yn Fietnam a 129 yn Cambodia a DIM UN farwolaeth o’r Cofid yn yr un o’r ddwy wlad.

Ac yna daethom adre i Heathrow. Dim hylif golchi dwylo, dim masgiau, dim cymryd tymheredd a ninnau wedi teithio o’r dwyrain. Mae’r gweddill yn hanes, fel dywed y Sais. Ac ar bwy mae’r bai am hynny? A dyna fi’n ôl at destun Golygyddol Ionawr.

 

Cerrig Pawb ar Wahan

Carreg Siop Y Parc

Mae ein diolch yn aruthrol i’r gweithwyr hanfodol a’r gwirfoddolwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gadw Cymru a gweddill Prydain ar eu traed drwy’r cyfnod hwn. Rhaid diolch hefyd i’r siopau bach lleol sydd wedi’n cynnal ni drwy’r cyfnod. Mae pethau’n dechrau dod yn ôl i drefn yn ara bach ac yfory byddwn yn cymryd cam arall tuag at gael y wlad yn ôl i’r hyn oedd hi – wrth agor siopau eraill. Mae neidr liwgar yn arwain y ffordd i Siop y Parc ac ar un o’r cerrig mae’r geiriau “Pawb ar wahan yn rhoi llaw i helpu’r gwan”. Mi fydd angen help llaw i fagu dipyn o hyder ar rai i fentro’n ôl i’r siopau ond pryd bynnag ewch chi cofiwch ddal ati i gefnogi’n siopa lleol.

 

 

Angharad Rhys