Y Bigwn

 

Cornel Coginio

Y Gornel Goginio

 

Profiteroles Siocled gyda hufen ffres

pizza cartref

Profiteroles Siocled gyda hufen ffres

Cynhwysion

50g o fenyn di hallt
2 llwy fwrdd o siwgr caster
75g o flawd cryf gwyn
2 ŵy (wedi curo)
300ml o hufen dwbl
50g o powdr cocoa
175g o siwgr caster

 

Dull

  1. Cynheswch y popty i 220 ͦc.
  2. Rhowch y menyn a 2 lwy fwrdd o siwgr a 150ml o ddŵr mewn sosban dros wres isel nes bod y cyfan wedi toddi a’i godi i'r berw.
  3. Tynnwch y sosban oddi ar y gwers ac ychwanegwch y blawd a’i gymysgu’n egnïol gyda llwy bren.
  4. Gadewch i’r gymysgedd oeri am 5 munud ac yna ychwanegwch yr wyau a chymysgwch yn egnïol nes bod y gymysgedd yn sgleinio.
  5. Rhowch ychydig o ddŵr a’r eich hambwrdd gan ei fod yn helpu’r toes i godi.
  6. Rhowch y gymysgedd mewn bag peipio neu defnyddiwch dwy lond llwy de o’r gymysgedd a’i osod ar yr hambwrdd. Coginiwch y toes am 18-20 munud.
  7. Gwnewch dwll bach yn ngwaelod pob profiterole a gadewch iddyn nhw oeri cyn eu torri yn eu hanner.
  8. Chwipiwch yr hufen gyda chymysgydd trydan neu llwy a llenwi pob profiterole yn unigol. Pentyrrwch y cyfan ar blât.
  9. Er mwyn gwneud y saws siocled rhowch 100ml o ddŵr a 175g o siwgr mewn sosban a gadael i’r siwgr doddi dros wres isel. Arllwyswch y cocoa i’r sosban a’i gymysgu gyda chwisg llaw dros y gwres am 1 munud.
  10. Gadewch i’r gymysgedd siocled oeri am 15 munud cyn ei diferu dros y profiteroles.

Cacen Lemwn

Bisgedi Rhiwbob a Chwstard

Cacen Lemwn

Cynhwysion

225g o fargarin
225g o siwgr caster
4 ŵy
225g o flawd codi
2 lemwn
100g o siwgr caster

Dull

  1. Cynheswch y popty i 175 ͦ
  2. Cymysgwch y margarin a 225g o siwgr caster gyda cymysgydd trydan am 3 munud.
  3. Ychwanegwch y wyau i’r gymysgedd un a’r y tro gan gymysgu yn ofalus rhwng bob w
  4. Ychwanegwch ‘zest’ 2 lemwn i’r gymysgedd. Ychwanegwch y blawd a cymysgu’r cyfan yn ofalus drwy beidio a gor-gymysgu’r blawd.
  5. Gallwch ddefnyddio tin crwn neu tîn pobi bara i wneud y gacen ond bydd angen gosod papur parchment ar waelod y ti
  6. Arllwyswch y gymysgedd i’r tin a’i roi yn y popty i goginio am 50 munud.
  7. Er mwyn gwneud y drizzle, rhowch y siwgr a’r sudd lemwn mewn bowlen a’i gymysgu gyda llwy.
  8. Wedi i’r gymysgedd oeri am ryw 5 munud prociwch tyllau bach yn y gacen er mwyn iddi amsugno’r drizzle.
  9. Arllwyswch y drizzle dros y gacen gynnes.
  10. Gadewch i’r gacen oeri cyn ei thynnu allan o’r tin.