Y Bigwn

Bachgen yn gorwedd ar lun gwisg mewn sialc

Mae gwirfoddolwyr Pwyllgor Carnifal Dinbych wedi bod yn brysur yn danfon bagiau Crefft a Lles i blant a theuluoedd yn Ninbych. Wedi'u hariannu gan Gyngor Tref Dinbych, Grŵp Cynefin a Chronfa Gymunedol Gwobrau'r Loteri mae'r grantiau hael hyn wedi galluogi i dros 240 o Fagiau gael eu cyflwyno. 

Mae'r bagiau'n llawn deunyddiau crefft a gyda'r bagiau Crefft mae bag amgylchedd gyda phridd, hadau llysiau a hadau adar. Mae'r bagiau wedi dod â llawer o lawenydd ac mae teuluoedd wedi creu a chwarae gyda'i gilydd.

 

Testun Arall Delwedd 1

Plant wrth eu bodd efo'r deunyddiau 

Meddai Sian Evans, rhiant  “Roedd fy mhlant i wedi gwirioni'n lân gyda'r bag crefftau. Roedden ni wedi syfrdanu gyda'r amrywiaeth o bethau oedd yn y bag. Cafodd y plant oriau o hwyl yn dylunio ac yn creu crefftau gwahanol. Roedd hi'n wrthdyniad i'w groesawu. Rŵan mae gennym ni wal liwgar iawn, llai o bapur ond mwy o chwerthin. Mae'r plant wedi bod yn defnyddio'i dychmygau ac mae'r crefftau wedi helpu i ni gyfathrebu fel teulu mwy, ac wedi tynnu eu meddyliau oddi ar y sefyllfa bresennol. Diolch yn fawr iawn i'r carnifal a'r holl wirfoddolwyr a phawb oedd yn trefnu! Syniad gwych.”

 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynllun ar dudalen Facebook  Carnifal Dinbych neu e-bost Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Menter Iaith Sir Ddinbych 6 Heigad Dinbych / Denbigh LL16 3LE 01745 812822

www.misirddinbych.cymru

Dilynwch ni  www.twitter.com/MIDinbych    //  Facebook Menter Iaith Sir Ddinbych