Y Bigwn

Roedd un o’n colofnwyr yn cymharu ei hun i Worzel Gummidge fis diwethaf am ei fod o, fel sawl un ohonom, angen cael torri ei wallt yn ddirfawr. Fe drefnodd Pwyllgor y Carnifal gystadleuaeth Bwgan Brain yn lle’r Carnifal eleni a braf oedd gweld y creadigaethau gwalltog, heini, lliwgar hyn yn ymddangos ar hyd y lle. Welsoch chi nhw? Dyma’r rhai welson ni wrth fynd am dro a’r un roddodd wên ar fy wyneb i oedd y wraig yn glanhau ffenestri “Da chi byth yn rhy hen i estyn am y sêr”. Neges bwysig i ni i gyd!

Isod mae englyn i’r Bwgan Brain gan hen ffrind i’r Bigwn, y diweddar John Glyn.

Ni wêl â’i lygaid milain – un copi,

ond mae’r cipar hirfain

mud a byddar yn arwain

yn yr ŷd gorws o frain.

mehefin19

mehefin22mehefin23mehefin24mehefin28paper girl and boy