Y Bigwn

Fel arfer fyddem ni ddim yn cyhoeddi adolygiad neu hysbyseb am lyfr Saesneg ond teimlwn fod hwn yn lleol ac o ddiddordeb i'n darllenwyr - Gol

 

Cyfreithiwr yn adrodd hanes cyffesiad rhyfeddol llofrudd ar noswyl Nadolig

 

Roedd y cyn-gyfreithiwr Dylan Rhys Jones yn eistedd wrth ymyl Peter Moore, y ‘Dyn mewn Du’, pan ddywedodd yntau wrth y ditectifs ei fod wedi trywanu pedwar dyn i farwolaeth mewn gwaed oer am ‘hwyl’.

 

Yr Awdur

Yr Awdur

Mae’r cyfreithiwr, oedd yn amddiffyn ‘dyn peryclaf Cymru’, wedi datgelu hanes yr eiliad iasol honno pan gyfaddefodd y llofrudd cyfresol Peter Moore iddo drywanu pedwar dyn i farwolaeth, gan ddweud fod yr ymosodiadau ciaidd yn hawdd – ‘fel cyllell trwy fenyn’.

Dyma’r tro cyntaf i’r cyn-gyfreithiwr Dylan Rhys Jones adrodd ei stori, a hynny mewn llyfr newydd, The Man in Black - Peter Moore - Wales' Worst Serial Killer, sy’n cael ei gyhoeddi 25 mlynedd yn union ers llofruddiaethau erchyll Peter Moore, a wnaeth am ‘hwyl’.

Yn ystod oriau mân noswyl Nadolig 1995, yn Swyddfa’r Heddlu Llandudno, cyfaddefodd y llofrudd, oedd ag obsesiwn â Natsïaid, iddo ladd dros gyfnod o dri mis, a ddechreuodd ar Ynys Môn ym mis Medi, gan godi arswyd ar gymuned hoyw Gogledd Cymru a Glannau Merswy.

Yng ngŵydd Mr Jones, fe wnaeth Moore – dyn tawel, a ffanatig ffilmiau o Fae Cinmel a oedd yn berchen ar gadwyn o sinemâu ym Magillt, Dinbych, Caergybi a Blaenau Ffestiniog – gyffesu wrth ddau ditectif o Heddlu Gogledd Cymru ei fod wedi lladd y pedwar dyn.

Meddai: ‘Dwi’n cyfaddef i’r ddwy lofruddiaeth ar Ynys Môn, a’r un ar draeth Pensarn, yn ogystal ag un arall dydych chi ddim yn gwybod amdani eto, yng nghoedwig Clocaenog ger Rhuthun.’

Roedd Moore yn adnabyddus yn yr ardal am ei ddillad anarferol, a chafodd ei alw’n lleol fel ‘Y Dyn mewn Du’. A phan agorwyd yr achos yn erbyn Moore yn Llys Ynadon yr Wyddgrug, soniodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Alex Carlile QC, amdano fel: ‘Y dyn mewn du – meddyliau duon a’r gorchestion duaf oll.’

Carcharwyd ef am oes ym mis Tachwedd 1996, gydag argymhelliad na fyddai byth yn cael ei rhyddhau.

Ac mae Moore yn dal i fod dan glo am oes yng ngharchar Wakefield, ‘Monster Mansion’ Prydain, a bu adain Supermax y carchar diogelwch llym yn gartref hefyd i lofruddwyr fel Harold Shipman (Dr Death) y llofrudd plant Ian Huntley, a Mark Bridger, a laddodd y plentyn pum mlwydd oed April Jones ym Machynlleth yn 2012.

Ond am 2.32, ar y bore oer hwnnw yn Llandudno, dyma’r cyfreithiwr yn ysgrifennu ei nodiadau yn bwyllog, wrth i Moore, yn ei lais addfwyn, benywaidd, gyfaddef wrth y Ditectif Ringyll Ian Guthrie a’r Ditectif Gwnstabl Dave Morris am y llofruddiaethau.

Dechreuodd y lladd ym mis Medi pan gafodd Henry Roberts, dyn 56 mlwydd oed, ei drywanu i farwolaeth yn ei gartref ger Caergeiliog, Caergybi. Roedd y cyn-weithiwr rheilffordd wedi cael ei drywanu 27 o weithiau.

Parhaodd y cyfnod o arswyd wrth i Edward Carthy, dyn 28 mlwydd oed a gyfarfu Moore mewn clwb hoyw yn Lerpwl, gael ei drywanu i farwolaeth ym mis Hydref, ac yna ym mis Tachwedd 1995 ar yr A5 ar Ynys Môn, llofruddiwyd Keith Randles, rheolwr traffig 49 oed.

Y pedwerydd dioddefwr, a’r olaf, oedd Anthony Davies, 40 oed, a gafodd ei drywanu a’i adael i farw ar draeth Pensarn ger Abergele ym mis Rhagfyr.

Mae’r llyfr yn sôn am Moore yn galw yn nhŷ Henry Roberts yng Nghaergeiliog, wedi ei wisgo mewn du a chap Natsïaidd yr olwg ar ei ben, ac yn cario cyllell hela. Plediodd Roberts nad oedd yn Iddew cyn iddo gael ei ladd, ac mae’r llyfr yn disgrifio  Keith Randles hefyd yn erfyn am ei fywyd, a’r ffaith fod y llofrudd wedi cuddio gwrthrychau i’w atgoffa o’r dioddefwyr yn ei bwll yn yr ardd.

Darganfuwyd olion gwaed nifer o’r dioddefwyr ar gyllell mewn bag oedd yn eiddo i Moore.

Ar silff yn ei ystafell wely roedd helmed plisman, dau gap militaraidd Almaenaidd a phâr o fŵts hir, du.

Ac mewn cwpwrdd wrth y gwely roedd pastwn a lifrai heddlu yn hongian.

Wrth siarad â’r ditectifs am lofruddiaeth Keith Randles meddai Moore: ‘Wrth i mi ei drywanu, gofynnodd pam oeddwn i’n ei ladd, a dwedais i ei fod yn hwyl.

‘Cwympodd i’r llawr. Roeddwn i wedi gwneud jobyn gwerth chweil, felly gadewais a mynd yn ôl at fy fan.’

A phan ofynnwyd iddo sut roedd e’n teimlo wrth iddo’u lladd, atebodd Moore yn iasol: ‘Roedd e mor hawdd. Yn union fel cyllell trwy fenyn.’

Cyfaddefodd hefyd iddo ymosod ar ‘nifer o ddynion’ yn Nyffryn Conwy am gyfnod o 20 mlynedd cyn dechrau ar y lladd.

Meddai: ‘Weithiau, wrth yrru o gwmpas yn hwyr y nos, byddwn i’n gweld rhywun yn cerdded wrth ymyl y ffordd a byddwn i’n stopio ac yn ymosod arnyn nhw.’

‘Byddwn i’n taro’u cyrff a’u pennau sawl gwaith â phastwn. Fel arfer byddwn i wedi gwisgo fel plisman neu mewn lifrai Natsi neu rywbeth tebyg, er mwyn codi ofn arnyn nhw. Clywn i’n ddiweddarach fod rhai o’r dynion wedi cael eu hanafu’n ddrwg yn yr ymosodiadau.’

 

Testun Arall Delwedd 1

Yn y llyfr mae Mr Jones yn disgrifio’r effaith andwyol gafodd hyn arno yntau a’r ddau blisman ar ôl clywed Moore yn adrodd yr hanesion erchyll mewn modd mor bwyllog a digynnwrf.

Meddai Mr Jones, sy’n byw yn Abergele: ‘Roedd fel gwylio madfall gwaed oer yn symud yn araf at ei brae, gan fesur pob symudiad heb wastraffu unrhyw egni ofer, dim ond disgrifio elfennau angenrheidiol y weithred… Disgrifiadau moel gan lofrudd oedd yn hollol ddideimlad i ganlyniadau ei weithredoedd.’

Ond fore trannoeth, ychydig oriau’n unig yn ddiweddarach, tynnodd Moore yr holl gyhuddiadau yn ôl, gan fynnu ei fod wedi cyfaddef y cyfan er mwyn amddiffyn ei ffrind, y gwir lofrudd, dyn o’r enw Jason, sef enw’r llofrudd yn y ffilmiau Friday the 13th roedd Moore wedi dangos yn ei sinemâu.

Ychwanegodd Dylan Jones: ‘Rydw i wedi meddwl droeon a oedd yr hyn ddwedodd Moore adeg y cyfweliad yn wir ai peidio. Ai rhyw fath o ymffrostio oedd hyn? Roedd gan y dyn gynulleidfa a gwelodd ei gyfle i berfformio, fel actor ar sgrin sinema o flaen cynulleidfa barod.’

‘Oedd y ddau dditectif a finnau’n gynulleidfa hawdd i Moore, yn barod i lyncu manylion gwaedlyd llofrudd arswydus mewn rhyw ffilm ddibwys, dim ond i ddifyrru ei hun? Heb amheuaeth roedd y tri ohonon ni wedi’n syfrdanu, ein harswydo a’n hudo gan y perfformiad oedd o’n blaenau. Ond oedd e’n wir?’

Mae’r llyfr yn portreadu Moore fel dyn pwyllog a hunanfeddiannol, yn cyfleu  disgrifiadau o’r llofruddiaethau mewn modd digyffro a didaro, gan awgrymu bod y broses o ladd yn un hawdd, y broses o drywanu yn syml, yn uniongyrchol a dideimlad.

Mae’r awdur Dylan Jones wedi rhoi’r gorau i weithio fel cyfreithiwr erbyn hyn, ac mae bellach yn darlithio ar y Gyfraith a Chriminoleg ac wedi helpu i sefydlu’r cwrs Gradd Sylfaen Rheoli Troseddwyr, Cyfiawnder Troseddol a Chymdeithasol yng Ngholeg Cambria a Phrifysgol Caer. Mae’n cyfrannu’n rheolaidd i raglenni radio a theledu.

Meddai: ‘Roedd Moore yn lladd mewn ffordd ddiemosiwn, syml ac effeithiol. Roedd wedi perffeithio’r grefft o ladd fel petai’n beiriant didostur yn bwydo rhyw chwant mewnol ym mherfeddion tywyll ei feddwl, ei fwydo gan greulondeb, rheolaeth lwyr ac, yn y pen draw, gan farwolaeth.

‘Yr argraff gefais i oedd bod Moore wedi mwynhau’r hyn a wnaeth, roedd o’r farn ei fod wedi llwyddo yn ei waith a’i fod wedi diwallu ei anghenion dieflig mewn ffordd effeithiol. Roedd y weithred o ladd fel rhoi ‘cyllell trwy fenyn’ iddo, a phleser y lladd yn anfesuradwy.’

Cafodd The Man in Black - Peter Moore - Wales' Worst Serial Killer ei gyhoeddi gan wasg y Lolfa ym mis Medi, a’r pris yw £9.99.